Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Benoni~cywiki (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: it:Taliesin
ehangu
Llinell 3:
==Tad y Traddodiad Barddol==
Cofnododd [[Elis Gruffydd]] fersiwn o'r [[chwedl]] ''[[Hanes Taliesin]]'' yn y [[16eg ganrif]], a'r hanes yma a fersiynau diweddarach ohono, ynghyd â'r [[canu darogan]] a cherddi chwedlonol canoloesol, sydd yn sylfaen i ddelw Taliesin yn y diwylliant a dychymyg poblogaidd hyd heddiw dan yr enw [[Taliesin Ben Beirdd]]. Yn y [[Traddodiad Barddol]] Cymreig roedd Taliesin yn cael ei ystyried gan y beirdd fel Tad y Traddodiad.
 
==Dosbarthiad ar y cerddi==
Priodoloir tua 270 o gerddi i Daliesin. Fe’u diogelir mewn 259 [[llawysgrif]]. Gellid eu dosbarthu fel hyn:
 
* Y cerddi yn [[Llyfr Taliesin]] a briodolwyd gan Syr [[Ifor Williams]] i’r Taliesin hanesyddol, ac a olygwyd ganddo yn y gyfrol ''Canu Taliesin'' (1960).
*Cerddi eraill yn Llyfr Taliesin, o natur chwedlonol a chrefyddol yn bennaf.
*Cyfres o gerddi [[darogan]] yn [[Llyfr Coch Hergest]] a briodolir i Daliesin.
*'Canu i Swyddogion Llys y Brenin'. Cerddi byrion sy’n perthyn (o ran mydr a naws) i’r un haen o ganu yn y traddodiad barddol â rhai o gerddi Llyfr Taliesin ond sydd heb gysylltiad amlwg â’r Taliesin chwedlonol.
*Cerddi crefyddol, cyngor, [[gwireb]]au a [[dihareb|diarhebion]], a thrioedd a briodolir i Daliesin ond sydd heb gysylltiad pendant â chylch y Taliesin chwedlonol.
*Cerddi eraill a gysylltir â Thaliesin. Dwy gerdd ymddiddan yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]] a 'Cantre’r Gwaelod', sy'n gerdd ddiweddar (o’r ail ganrif ar bymtheg efallai).
*Tua 175 o gerddi eraill sydd yn dwyn rhyw berthynas â ffigur y Taliesin chwedlonol, neu’n ddaroganau a briodolir iddo. Dyma'r cerddi a gysylltir yn bennaf ag enw [[Taliesin Ben Beirdd]].
 
==Gweler hefyd==
Llinell 9 ⟶ 20:
 
==Llyfyddiaeth==
*Patrick K. Ford (gol.), ''Ystoria Taliesin'' (Caerdydd, 1992)
*Ifor Williams (gol.), ''Canu Taliesin'' (Caerdydd, 1959; sawl argraffiad arall wedi hynny). Y golygiad safonol o destunau hanesyddol Taliesin.
*Ifor Williams, ''Chwedl Taliesin'' (Caerdydd, 1957)
 
{{eginyn}}
 
[[Categori:Taliesin| ]]