Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
RoeddYr oedd '''Taliesin''' yn un o'r [[Bardd|beirdd]] cynharaf yn yr iaith [[Gymraeg]], a'r bardd Cymraeg cynharaf y ceir ei destunau ar glawr heddiw. Roedd Taliesin yn [[bardd llys|fardd llys]] i ddau o frenhinoedd y [[Brythoniaid]]: [[Cynan Garwyn]] o [[Teyrnas Powys|Bowys]] ac [[Urien Rheged]], brenin [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]]. Bu fyw yn ail hanner y [[6ed ganrif]] ac roedd yn perthyn i'r genhedlaeth ar ôl [[Aneirin]]. Fe'i crybwyllir yn y llyfr ''[[Historia Brittonum]]'' gan [[Nennius]] ynghyd ag [[Aneirin]], Cian, [[Blwchfardd]] a [[Talhaearn Tad Awen|Thalhaearn]], fel bardd a ganai yn yr Hen Ogledd. Mae cerddi'r Taliesin hanesyddol wedi goroesi yn ''[[Llyfr Taliesin]]'', [[llawysgrif]] o ddechrau'r [[13eg ganrif]], ynghyd a cherddi eraill ar destunau amrywiol sydd yn ddiweddarach ond a dadogir arno. Yr enw traddodiadol ar fardd y cerddi chwedlonol a'r daroganau yw [[Taliesin Ben Beirdd]].
 
==Tad y Traddodiad Barddol==
Cofnododd [[Elis Gruffydd]] fersiwn o'r [[chwedl]] ''[[Hanes Taliesin]]'' yn y [[16eg ganrif]], a'r hanes yma a fersiynau diweddarach ohono, ynghyd â'r [[canu darogan]] a cherddi chwedlonol canoloesol, sydd yn sylfaen i ddelw Taliesin yn y diwylliant a dychymyg poblogaidd hyd heddiw dan yr enw [[Taliesin Ben Beirdd]]. Yn y [[Traddodiadtraddodiad Barddolbarddol]] Cymreig roedd Taliesin yn cael ei ystyried gan y beirdd fel Tad y Traddodiad.
 
==Dosbarthiad ar y cerddi==
Llinell 16:
 
==Gweler hefyd==
*''[[Hanes Taliesin]]''
*''[[Llyfr Taliesin]]''
*[[Taliesin Ben Beirdd]]