Elffin ap Gwyddno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cymeriad o fewn chwedloniaeth Gymraeg
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Elffin ap Gwyddno''' yw noddwr Taliesin Ben Beirdd yn y chwedl ''Hanes Taliesin'' a thraddodiadau eraill o'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato weithiau fel '''Elffin''' yn u...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:40, 30 Awst 2007

Elffin ap Gwyddno yw noddwr Taliesin Ben Beirdd yn y chwedl Hanes Taliesin a thraddodiadau eraill o'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato weithiau fel Elffin yn unig; y sillafiad cynharaf ar ei enw yw Elphin (Llyfr Taliesin 19.23). Roedd Elffin yn fab i'r cymeriad chwedlonol neu led-hanesyddol Gwyddno Garanhir, a gysylltir â theyrnas Ceredigion a chwedl Cantre'r Gwaelod.

Yn ôl y testun achyddol Bonedd Gwŷr y Gogledd ("Achau Rhyfelwyr yr Hen Ogledd), mae Elffin, trwy ei dad Gwyddno, ei daid Cawrdaf, a’i hendaid Garmonion, yn un o ddisgynyddion Dyfnwal Hen ac, efallai, Macsen Wledig ac Elen Luyddog (diwedd y 4edd ganrif).[1] Yn ôl cofnod yn llawysgrif Peniarth 131 (1480–1550?), roedd ganddo ddau frawd, sef Cann ac Idris Arw. Cyfeirir at frawd arall yn Yr Areithiau Pros, Edeyrn fab Gwyddno Garanhir, y gwr a aeth i ymgyfredec a’r gwynt pann ddoeth dirvawr lynges i ddwyn gwraic Ffin vab Koed i drais[2].

Cysylltir Elffin ag Addaon fab Taliesin yn y chwedl fwrlesg Cymraeg Canol Breuddwyd Rhonabwy:

"Idawc," heb y Ronabwy, "pwy y marchawc gynneu?" "Y gwas ieuanc kymhennaf a doethaf a wneir yn y teyrnas hon, Adaon uab Telessin." "Pwy oed y gwr a drewis y varch ynteu?" "Gwas traws fenedic, Elphin uab Gwydno."[3]

Ond cofir Elffin yn bennaf am ei gysylltiad â'r Taliesin chwedlonol, Taliesin Ben Beirdd. Yn ôl y chwedl Hanes Taliesin, cafodd Elffin hyd i'r Taliesin newyddanedig yn hongian mewn cwd lledr ar bolyn yng Ngored Wyddno. Canodd y baban gerdd iddo, 'Dihuddiant Elffin'. Cipiwyd Elffin gan Maelgwn Gwynedd. Yn yr ymryson barddol yn llys Maelgwn Gwynedd bu gornest rhwng Taliesin a beirdd llys Maelgwn i ryddhau Elffin. Ceir sawl cyfeiriad at hyn yn y cerddi a dadogir ar Daliesin yn Llyfr Taliesin. Cyfeirir ato mewn dau o 'Englynion y Beddau' yn ogystal (Llyfr Du Caerfyrddin]]).

Mae Taliesin yn pwysleisio, yn y gerdd 'Hanes Taliesin', mai "prifardd cyffredin" ydyw i Elffin. Cyfeirir at Daliesin sawl gwaith fel bardd Elffin yng ngwaith y beirdd, e.e. gan Lewys Môn a Wiliam Cynwal[4] Weithiau mae beirdd fel Dafydd Benfras a Tudur Aled yn cymharu noddwyr i Elffin.

Cyfeiriadau

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), t. 238.
  2. Gwenallt (gol.), Yr Areithiau Pros, 15.6–9.
  3. Melville Richards (gol.), Breuddwyd Rhonabwy (Caerdydd, 1948), t. 8, llau. 14–19.
  4. Eurys Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn, XCII.41–2; Gruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal, 36.53–6; 51.49–50.