Elffin ap Gwyddno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Elffin ap Gwyddno''' yw noddwr [[Taliesin Ben Beirdd]] yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'' a thraddodiadau eraill o'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato weithiau fel '''Elffin''' yn unig; y sillafiad cynharaf ar ei enw yw '''Elphin''' ([[Llyfr Taliesin]] 19.23). Roedd Elffin yn fab i'r cymeriad chwedlonol neu led-hanesyddol [[Gwyddno Garanhir]], a gysylltir â [[teyrnas Ceredigion|theyrnas Ceredigion]] a chwedl [[Cantre'r Gwaelod]].
 
Yn ôl y testun achyddol ''Bonedd Gwŷr y Gogledd'' ("Achau Rhyfelwyr yr [[Hen Ogledd]]"), mae Elffin, trwy ei dad Gwyddno, ei daid [[Cawrdaf]], a’i hendaid [[Garmonion]], yn un o ddisgynyddion [[Dyfnwal Hen]] ac, efallai, [[Macsen Wledig]] ac [[Elen Luyddog]] (diwedd y 4edd ganrif).<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1991), t. 238.</ref> Yn ôl cofnod yn llawysgrif [[Peniarth 131]] 131 (1480–1550?), roedd ganddo ddau frawd, sef Cann ac Idris Arw. Cyfeirir at frawd arall yn ''Yr Areithiau Pros'', Edeyrn fab Gwyddno Garanhir, "y gwr a aeth i ymgyfredec a’r gwynt pann ddoeth dirvawr lynges i ddwyn gwraic Ffin vab Koed i drais"<ref>Gwenallt (gol.), ''Yr Areithiau Pros'', 15.6–9.</ref>.
 
Cysylltir Elffin ag [[Addaon fab Taliesin]] yn y chwedl fwrlesg [[Cymraeg Canol]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'':