Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Elffin ap Gwyddno"

Ychwanegwyd 614 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
Thos. Love Peacock
B
(Thos. Love Peacock)
'''Elffin ap Gwyddno''' yw noddwr [[Taliesin Ben Beirdd]] yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'' a thraddodiadau eraill o'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato weithiau fel '''Elffin''' yn unig; y sillafiad cynharaf ar ei enw yw '''Elphin''' ([[Llyfr Taliesin]] 19.23). Roedd Elffin yn fab i'r cymeriad chwedlonol neu led-hanesyddol [[Gwyddno Garanhir]], a gysylltir â [[teyrnas Ceredigion|theyrnas Ceredigion]] a chwedl [[Cantre'r Gwaelod]], y tir a gollwyd i'r môr ym [[Bae Ceredigion|Mae Ceredigion]].
 
==Llinach==
Yn ôl y testun achyddol ''Bonedd Gwŷr y Gogledd'' ("Achau Rhyfelwyr yr [[Hen Ogledd]]"), mae Elffin, trwy ei dad Gwyddno, ei daid [[Cawrdaf]], a’i hendaid [[Garmonion]], yn un o ddisgynyddion [[Dyfnwal Hen]] ac, efallai, [[Macsen Wledig]] ac [[Elen Luyddog]] (diwedd y 4edd ganrif).<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1991), t. 238.</ref> Yn ôl cofnod yn llawysgrif [[Peniarth]] 131 (1480–1550?), roedd ganddo ddau frawd, sef Cann ac Idris Arw. Cyfeirir at frawd arall yn ''Yr Areithiau Pros'', Edeyrn fab Gwyddno Garanhir, "y gwr a aeth i ymgyfredec a’r gwynt pann ddoeth dirvawr lynges i ddwyn gwraic Ffin vab Koed i drais"<ref>Gwenallt (gol.), ''Yr Areithiau Pros'', 15.6–9.</ref>.
 
==Noddwr Taliesin==
Cysylltir Elffin ag [[Addaon fab Taliesin]] yn y chwedl fwrlesg [[Cymraeg Canol]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'':
:"Idawc," heb y Ronabwy, "pwy y marchawc gynneu?" "Y gwas ieuanc kymhennaf a doethaf a wneir yn y teyrnas hon, Adaon uab Telessin." "Pwy oed y gwr a drewis y varch ynteu?" "Gwas traws fenedic, Elphin uab Gwydno."<ref>Melville Richards (gol.), ''Breuddwyd Rhonabwy'' (Caerdydd, 1948), t. 8, llau. 14–19.</ref>
 
Ond cofir Elffin yn bennaf am ei gysylltiad â'r Taliesin chwedlonol, [[Taliesin Ben Beirdd]]. Yn ail ran y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'', mae Elffin yn cael hyd i'r Taliesin newyddanedig yn hongian mewn cwd lledr ar bolyn yng Ngored Wyddno, ger [[Aberdyfi]], ar fore [[Calan Mai]]. Elffin a roes ei enw iddo. Cododd y baban a dywedodd wrth ei was "Llyma dal iesin" ('Dyma dalcen teg'): "Taliesin bid!" atebodd y baban.<ref>P.K. Ford (gol.), ''Ystorya Taliesin'' (Caerdydd, 1992), t. 69.</ref> Canodd y baban gerdd iddo, 'Dihuddiant Elffin,' a oedd ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Mae'n dechrau gyda'r pennill
:'Elffin teg, taw a'th wylo;
 
Mae Taliesin yn pwysleisio, yn y gerdd 'Hanes Taliesin', mai "prifardd cyffredin" ydyw i Elffin. Cyfeirir at Daliesin sawl gwaith fel bardd Elffin yng ngwaith y beirdd, e.e. gan [[Lewys Môn]] a [[Wiliam Cynwal]]<ref>Eurys Rowlands (gol.), ''Gwaith Lewys Môn'', XCII.41–2; Gruffydd Aled Williams (gol.), ''Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal'', 36.53–6; 51.49–50.</ref> Weithiau mae beirdd fel [[Dafydd Benfras]] a [[Tudur Aled]] yn cymharu noddwyr i Elffin.
 
Cysylltir Elffin ag [[Addaon fab Taliesin]] yn y chwedl fwrlesg [[Cymraeg Canol]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'':
:"Idawc," heb y Ronabwy, "pwy y marchawc gynneu?" "Y gwas ieuanc kymhennaf a doethaf a wneir yn y teyrnas hon, Adaon uab Telessin." "Pwy oed y gwr a drewis y varch ynteu?" "Gwas traws fenedic, Elphin uab Gwydno."<ref>Melville Richards (gol.), ''Breuddwyd Rhonabwy'' (Caerdydd, 1948), t. 8, llau. 14–19.</ref>
 
==Llenyddiaeth ddiweddarach==
Yn 1829, cyhoeddodd y llenor [[Thomas Love Peacock]] ([[1785]]-[[1866]]) nofel fer hynod o'r enw ''The Misfortunes of Elphin''. Mae hi'n nofel [[bwrlesg|fwrlesg]] sy'n seiliedig yn fras ar hanes Elffin a Taliesin yn y chwedl ond sy'n cynnwys yn ogystal hanes [[Cantre'r Gwaelod]] a sawl cymeriad o hanes traddodiadol Cymru. Mae ffynonellau Peacock yn anhysbys, ond mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â ''[[Hanes Taliesin]]''. Ymwelodd â [[Meirionnydd]] sawl gwaith a phriododd ferch leol.
 
==Cyfeiriadau==