Sarn Badrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B +en
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Sarn dan y môr ym [[Bae Ceredigion|Mae Ceredigion]] yw '''Sarn Badrig'''. Mae'n ymestyn tua'r gorllewinde-orllewin o'r arfordir ger Mochras, gerllaw [[Llanbedr]] am tua 21 milltir. Dim ond ar lanw isel iawn y gellir gweld y sarn, ond gan ei bod yn weddol agos at yr wyneb, mae'n medru bod yn beryglus i gychod. Credir i'r sarn gael ei chreu gan rewlif yn ystod [[Oes yr Ia]]. Ceir amrywiaeth ddiddorol o wymon y môr ar y sarn, ac o'r herwydd mae'n Ardal Gadwraeth Arbennig.
 
Mewn chwedl, Sarn Badrig yw gweddillion y mur oedd yn gwarchod [[Cantre'r Gwaelod]] rhag y môr. Awgryma'r enw gysylltiad a Sant [[Padrig]]; y syniad mae'n debyg oedd ei bod yn sarn a ddefnyddiai ef i gerdded i [[Iwerddon]].