Sarn Badrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
sarnau
Llinell 1:
Sarn neu rîff dan y môr ym [[Bae Ceredigion|Mae Ceredigion]] yw '''Sarn Badrig'''. Mae'n ymestyn tua'r de-orllewin o'r arfordir ger Mochras, gerllaw [[Llanbedr]] am tua 2124 milltirkm. Dim ond ar lanw isel iawn y gellir gweld y sarn, ond gan ei bod yn weddol agos at yr wyneb, mae'n medru bod yn beryglus i gychod. Credir i'r sarn gael ei chreu gan rewlif yn ystod [[Oes yr Ia]] yn gadael gweddillion clai clogfaen. Ceir amrywiaeth ddiddorol o wymon y môr ar y sarn, ac o'r herwydd mae'n Ardal Gadwraeth Arbennig.
 
Mewn chwedl, Sarn Badrig yw gweddillion y mur oedd yn gwarchod [[Cantre'r Gwaelod]] rhag y môr. Awgryma'r enw gysylltiad a Sant [[Padrig]]; y syniad mae'n debyg oedd ei bod yn sarn a ddefnyddiai ef i gerdded i [[Iwerddon]].
 
Bu [[Lewis Morris]] yn cynnal arolwg o'r ardal. Yn mis Mai, [[1742]], ysgrifennodd: ''Have been upon ye Innermost part of Sarn Badrig and have taken many soundings. The more I know it the more terrible it is.''
 
Sarn Badrig yw'r fwyaf o dair sarn ym Mae Ceredigion; y ddwy arall, ymhellach i'r de, yw Sarn-y-Bwch a Sarn Cynfelyn. Ystyrir hwy yn nodweddion tanfor unigryw yn Ynysoedd Prydain.
 
 
==Cysylltiad allanol==