William Bingley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Naturiaethwr ac awdur llyfrau taith o Sais oedd '''William Bingley''' (1774 - 1823). Ymddiddorai mewn cerddoriaeth y ogystal. Cyhoeddodd ddau lyfr am deithiau yng ... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Naturiaethwr ac awdur llyfrau taith o [[Saeson|Sais]] oedd '''William Bingley''' ([[1774]] - [[1823]]). Ymddiddorai mewn cerddoriaeth
Myfyriwr ifanc ar ei wyliau oedd Bingley pan deithiodd o gwmpas gogledd Cymru y tro cyntaf. Roedd hynny yn y flwyddyn [[1798]], pan lesteirwyd pobl rhag mynd ar y ''Grand Tour'' ffasiynol arferol gan yr helyntion ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn Ffrainc oherwydd y [[Chwyldro Ffrengig]]. Ac eithrio [[Thomas Pennant]], Bingley yw un o'r teithwyr cynharaf i gofnodi ei brofiad o deithio yng Nghymru; arfer a ddaeth yn ffasiynol iawn dros y degawdau olynol a welodd gyhoeddi rhai dwsinau o lyfrau taith gan y twristiaid cynnar hyn. Ychydig o werth sydd i'r rhan fwyaf o'r cyfrolau, ond mae llyfr Binlgey, ''Tour round North Wales'' ([[1800]]), yn wahanol. Mae pennodau fel ei daith i ben [[Yr Wyddfa]] i chwilio am blanhigion prin yn sefyll allan. Mae ganddo hanesion difyr am leoedd a phobl hefyd, wedi'i sgwennu mewn arddull bywiog gan rywun a ymddiddorai'n ddiffuant yn y Cymry a'u traddodiadau.
|