Nant Ffrancon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

dyffryn rhewlifol rhwng Llyn Ogwen a Bethesda
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Dyffryn yn Eryri yw '''Nant Ffrancon''', sy'n ymestyn tua'r gogledd o Lyn Ogwen a Chwm Idwal hyd at gyffiniau pentref Bethesda. Credir bod "Ffran...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:44, 1 Medi 2007

Dyffryn yn Eryri yw Nant Ffrancon, sy'n ymestyn tua'r gogledd o Lyn Ogwen a Chwm Idwal hyd at gyffiniau pentref Bethesda. Credir bod "Ffrancon" yn hen enw ar filwr hur.

Mae Nant Ffrancon o ddiddordeb daearegol mawr, gan ei bod yn enghraifft glasurol o ddyffryn a grewyd gan rewlif, ac yn dangos siâp "U" nodweddiadol y dyffrynnoedd hynny, gydag ochrau serth a gwaelod gwastad. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn mae llethrau Pen yr Ole Wen a Carnedd Dafydd yn y Carneddau, tra ar yr ochr orllewinol mae llethrau rhai o gopaon y Glyderau megis Y Garn, Foel Goch a Mynydd Perfedd. Mae llawer o'r meini yn y dyffryn yn dangos tystiolaeth eu bod wedi eu symud gan y rhewlif yn ystod Oes yr Iâ. Er bod Afon Ogwen yn llifo ar hyd y dyffryn, nid yr afon a greodd y dyffryn yma.