Nant Ffrancon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Dyffryn yn [[Eryri]] yw '''Nant Ffrancon''', sy'n ymestyn tua'r gogledd o [[Llyn Ogwen|Lyn Ogwen]] a [[Cwm Idwal|Chwm Idwal]] hyd at gyffiniau pentref [[Bethesda]]. Credir bod "Ffrancon" yn hen enw ar filwr hur.
 
Mae Nant Ffrancon o ddiddordeb [[daeareg|daearegol]] mawr, gan ei bod yn enghraifft glasurol o ddyffryn a grewyd gan rewlif, ac yn dangos siâp "U" nodweddiadol y dyffrynnoedd hynny, gydag ochrau serth a gwaelod gwastad. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn mae llethrau [[Pen yr Ole Wen]] a [[Carnedd Dafydd]] yn y [[Carneddau]], tra ar yr ochr orllewinol mae llethrau rhai o gopaon y [[Glyderau]] megis [[Y Garn (Glyderau)|Y Garn]], Foel Goch a Mynydd Perfedd. Mae llawer o'r meini yn y dyffryn yn dangos tystiolaeth eu bod wedi eu symud gan y rhewlif yn ystod [[Oes yr Iâ]]. Er bod [[Afon Ogwen]] yn llifo ar hyd y dyffryn, nid yr afon a greodd y dyffryn yma. Mae priffordd yr [[A5]] hefyd yn dilyn y dyffryn.
 
[[Categori:Gwynedd]]