Porthmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ychw
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ceir cofnod o borthmyn yn gyrru [[Buwch|gwartheg]] o Gymru i Loegr i'w gwerthu cyn gynhared a'r [[14eg ganrif]], ond cyrhaeddodd y fasnach yma ei huchafbwynt yn ystod y [[18fed ganrif]]. [[Llundain]] oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i'r porthmyn Cymreig, a datblygodd [[Smithfield]] ar gyrion y ddinas i fod y farchnad anifeiliaid fwyaf yn y byd.
 
Byddai'r porthmyn yn cario symiau sylweddol o arian ar eu taith yn ôl wedi gwerthu'r anifeiliad, ac yn aml roedd pobl eraill oedd angen gyrru arian i rywle arall yn eu roi i'r porthmyn i'w trosglwyddo. Roedd perygl oddi wrth lasdron pen-ffordd, a bu hyn yn symbyliad i ddatblygiad nifer i fanciau. Sefydlwyd [[Banc yr Eidion Du]] yn Llanymddyfri gan borthmon o'r enw David Jones yn [[1799]]. Parhaodd y banc yma nes i Fanc Lloyds ei brynu yn [[1909]]. Sefydlwyd [[Banc y Ddafad Ddu]] gan porthmynborthmyn defaid [[Tregaron]] ac [[Aberystwyth]] yn gynnar yn y [[19eg ganrif]].
 
Diflannodd y porthmyn yn raddol yn ystod y [[19eg ganrif]], oherwydd datblygiad y rheilffyrdd a rhesymau eraill. Yr unig olion bellach yw'r ffyrdd porthmyn, yn enwedig ar dir uchel mewn gwahanol rannau o Gymru.