Porthmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Banc y Ddafad Ddu dwy bunt.JPG|250px|bawd|Papur £2 '''Banc y Ddafad Ddu''']]
 
Defnyddir y gair '''Porthmon''' am rywun sy'n gyrru anifeiliaid dros bellter hir i'w gwerthu. Roedd y porthmyn yn elfen bwysig iawn yn economi Cymru yn y [[18fed ganrif]] yn arbennig. [[Buwch|Gwartheg]] oedd yn cael eu gyrru gan amlaf, ond byddai [[Dafad|defaid]] a hyd yn oed gwyddau yn cael eu gyrru.
 
Ceir cofnod o borthmyn yn gyrru [[Buwch|gwartheg]] o Gymru i Loegr i'w gwerthu cyn gynhared a'r [[14eg ganrif]], ond cyrhaeddodd y fasnach yma ei huchafbwynt yn ystod y [[18fed ganrif]]. [[Llundain]] oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i'r porthmyn Cymreig, a datblygodd [[Smithfield]] ar gyrion y ddinas i fod y farchnad anifeiliaid fwyaf yn y byd.