Crimea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
+ehangu am y Tatariaid
Llinell 3:
Gorynys yng ngogledd y [[Môr Du]] yw'r '''Crimea''' neu '''Krym''' ([[Rwsieg]] ''Крым'' / ''Krym'', [[Wcraineg]] ''Крим'' / ''Krym'', [[Tatareg Crimea]] ''Qırım''). Fe'i gweinyddir fel gweriniaeth hunanlywodraethol o fel [[Wcráin]]. Enw swyddogol y weriniaeth honno yw '''Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea''' (Wcraineg ''Автономна Республіка Крим/Avtonomna Respublika Krym, Tatareg Crimea ''Qırım Muhtar Cumhuriyeti'').
 
Amgylchynir y Crimea bron yn gyfangwbl gan y Môr Du a rhan o [[Môr Azov|Fôr Azov]], gyda [[Isthmws Perekop]] yn ei gysylltu â'r tir mawr. Mae rhan helaeth y Crimea yn wastadedd onfond mae'n codi i 1545m (5069 troedfedd) yn y de gyda chopa [[Gora Roman-Kosh]], yr uchaf o gadwyn o fryniau ar hyd arfordir de-ddwyreiniol yr orynys. Y prif ddinasoedd yw [[Feodosia]], [[Kerch]], [[Sevastopol]], [[Yalta]], [[Yevpatoria]] a [[Simferopol]], y brifddinas.
 
Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn [[Rwsiaid]], gyda niferoedd sylweddol o [[Wcrainiaid]] (24%) a [[Tatariaid Crimea]] (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001) hefyd, er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol yw'r Wcraineg, er bod y Rwsieg yn cael ei defnyddio yn eang ar gyfer materion y llywodraeth hunanlywodraethol.
 
Coloneiddwyd y Crimea gan y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] yn y [[6ed ganrif CC]]. Cafodd ei oresgyn yn ddiweddarach gan y [[Gothiaid]], yr [[Huniaid]] ac eraill. Yn [[1239]] cafodd ei wneud yn ''khaniad'' gan [[Tatariaid]] yr [[Haid Euraidd]]. Cipiwyd y ''khaniad'' gan y [[Twrci|Tyrciaid]] yn [[1475]] a chafodd y Crimea ei feddianufeddiannu gan [[Rwsia]] yn [[1783]]. Rhwng [[1853]] a [[1856]] ymladdwyd [[Rhyfel y Crimea]] yno rhwng lluoedd Rwsia ar un ochr a lluoedd [[DU|Prydain]], [[Ffrainc]] ac [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] ar yr ochr arall. MeddianwydMeddiannwyd y Crimea gan yr [[Almaen]] [[Natsïaeth|Natsïaidd]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]] ([[1941]]-[[1943]]). Ar ôl y rhyfel cafodd nifer oy DartariaidTartariaid eu halltudio i [[Uzbekistan]] yn eu crwnswth am gydweithredu, yn ôl yr honiad, â'r Almaenwyr. Ers cwymp yr [[Undeb Sofietaidd]] mae llawer ohonynt wedi dod yn ôl.
 
{{eginyn}}