Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Mae hon yn erthygl am y bardd hanesyddol. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler [[Taliesin (gwahaniaethu)]].''
Yr oedd '''Taliesin''' yn un o'r [[Bardd|beirdd]] cynharaf yn yr iaith [[Gymraeg]], a'r bardd Cymraeg cynharaf y ceir ei destunau ar glawr heddiw. Roedd Taliesin yn [[bardd llys|fardd llys]] i ddau o frenhinoedd y [[Brythoniaid]]: [[Cynan Garwyn]] o [[Teyrnas Powys|Bowys]] ac [[Urien Rheged]], brenin [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]]. Bu fyw yn ail hanner y [[6ed ganrif]] ac roedd yn perthyn i'r genhedlaeth ar ôl [[Aneirin]]. Fe'i crybwyllir yn y llyfr ''[[Historia Brittonum]]'' gan [[Nennius]] ynghyd ag [[Aneirin]], Cian, [[Blwchfardd]] a [[Talhaearn Tad Awen|Thalhaearn]], fel bardd a ganai yn yr Hen Ogledd. Mae cerddi'r Taliesin hanesyddol wedi goroesi yn ''[[Llyfr Taliesin]]'', [[llawysgrif]] o ddechrau'r [[13eg ganrif]]. Maent yn perthyn i'r [[Hengerdd]]. Yn ''Llyfr Taliesin'' a llawysgrifau eraill ceir nifer o gerddi eraill yn ogystal, ar destunau amrywiol, sydd yn ddiweddarach ond a dadogir arno. Yr enw traddodiadol ar fardd y cerddi chwedlonol a'r daroganau yw [[Taliesin Ben Beirdd]].