Daniel ap Llosgwrn Mew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Yr oedd '''Daniel ap Llosgwrn Mew''' (fl. 1170 - 1200) yn fardd llys yng Gwynedd yn chwarter olaf y 12fed ganrif. Dim ond un o'i gerddi sydd wedi goro...
 
Llinell 5:
 
==Gwaith==
Ceir y testun cynharaf o [[marwnad|farnwad]] Daniel ap Llosgwrn Mew i Owain Gwynedd yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] yn llaw gŵr o [[Abaty Ystrad Fflur]] (tua [[1300]]). Mae'n un o dair marwnad i Owain sydd ar glawr ([[Cynddelw Brydydd Mawr]] a [[Seisyll Bryffwrch]] piau'r ddwy arall). Mae'n bosibl fod y bardd wedi canu'r farwnad yn angladd Owain Gwynedd yn [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] ar [[23ddiwedd Tachwedd]], [[1170]]. Ynddi mynega'r bardd ei ofid am golli'r brenin dawnus a nerthol hwnnw a'i bryder am y dyfodol ar ei ôl. Ceir nodyn personol iawn yn y mynegiant sy'n gosod y farwnad hon ochr yn ochr â marwnad enwog [[Gruffudd ab yr Ynad Coch]] i [[Llywelyn Ein Llyw Olaf|Lywelyn]] yn 1282/83. Mae'r ger yn cloi ar nodyn beiddgar iawn gyda'r bardd yn datgan y byddai'n barod i geryddu Duw ei hun am ddwyn Owain, pe bai'n bosibl:
:'A nu bei gallwn ymgerydd—â Duw
:Ydd oedd imi ddefnydd.'