Gwynfardd Brycheiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

un o'r Gogynfeirdd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Gwynfardd Brycheiniog''' (fl. 1170au) yw'r cynharaf o Feirdd y Tywysogion o ddeheubarth Cymru y gwyddys ei enw a'r unig un ohonynt a hanfyddai o'r de-d...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:16, 5 Medi 2007

Gwynfardd Brycheiniog (fl. 1170au) yw'r cynharaf o Feirdd y Tywysogion o ddeheubarth Cymru y gwyddys ei enw a'r unig un ohonynt a hanfyddai o'r de-ddwyrain. Canodd i'r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth ac mae'n debygol ei fod wedi cymryd rhan yn Eisteddfod Aberteifi, 1176.

Y bardd

Ychydig a wyddys amdano ac eithrio ei enw a'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth y ddwy gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Ymddengys fod ei enw yn efelychiad o enw bardd cynharach o'r De, sef Gwynfardd Dyfed. Roedd y Gwynfardd hwnnw yn dad i Guhelyn Fardd, un o gyndeidiau Dafydd ap Gwilym. Awgrym arall ynglŷn â'r enw yw ei fod yn cyfeirio at degwch (un ystyr gwyn) awen y bardd neu at y ffaith ei fod yn perthyn i urdd eglwysig (ystyr arall gwyn/gwen fel ansoddair Cymraeg Canol yw 'bendigaid'). Mae'r epithet Brycheiniog yn dangos ei fod yn hannu o'r ardal honno; ategir hyn gan y wybodaeth fanwl am eglwysi Brycheiniog a welir yn ei awdl i Ddewi Sant. Mae cyfeiriadau eraill yn yr awdl honno yn dangos ei fod wedi ymweld â Dyddewi a hefyd â Gwynedd, efallai.

Ei waith

Dwy gerdd yn unig o waith Gwynfardd Brycheiniog sydd wedi goroesi (cyfanswm o 346 o linellau), sef 'Mawl yr Arglwydd Rhys' a 'Canu i Ddewi'. Y mae'r awdl i'r Arglwydd Rhys yn gân seciwlar ddigon confensiynol sy'n moli dewrder y noddwr. Mae'r awdl i Ddewi Sant yn fwy diddorol. Mae'n un o dair cerdd i saint o gyfnod y Gogynfeirdd a'r unig un i Ddewi. Lledaenu bri y sant yw bwriad y gerdd a cheir nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau o fuchedd y sant, fel Senedd Llanddewibrefi, a gwyrthiau. Cyfeirir at nifer o eglwysi gysegredig i Ddewi, ym Mrycheiniog a'r de-orllewin, a'r un sy'n cael y sylw mwyaf yw eglwys Llanddewibrefi. Mae'r gerdd yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar gyfer ein gwybodaeth o natur y clasau a'r drefn eglwysig gynnar yng Nghymru yn ei 296 llinell.

Ceir testunau'r cerddi hyn yn Llawysgrif Hendregadredd mewn llaw clerigwr o Abaty Ystrad Fflur (tua 1300). Digwydd yr awdl i Ddewi yn Llyfr Coch Hergest yn ogystal.

Llyfryddiaeth

  • Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Gwynfardd Brycheiniog', yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol VI.



Beirdd y Tywysogion  
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch