Gwynfardd Brycheiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Gwynfardd Brycheiniog''' (fl. 1170au) yw'r cynharaf o Feirdd y Tywysogion o ddeheubarth Cymru y gwyddys ei enw a'r unig un ohonynt a hanfyddai o'r de-d...
 
Llinell 2:
 
==Y bardd==
Ychydig a wyddys amdano ac eithrio ei enw a'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth y ddwy gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Ymddengys fod ei enw yn efelychiad o enw bardd cynharach o'r De, sef [[Gwynfardd Dyfed]]. Roedd y Gwynfardd hwnnw yn dad i [[Cuhelyn Fardd|Guhelyn Fardd]], un o gyndeidiau [[Dafydd ap Gwilym]]. Awgrym arall ynglŷn â'r enw yw ei fod yn cyfeirio at degwch (un ystyr ''gwyn'') [[awen]] y bardd neu at y ffaith ei fod yn perthyn i urdd eglwysig (ystyr arall ''gwyn''/''gwen'' fel ansoddair [[Cymraeg Canol]] yw 'bendigaid'). Mae'r epithet Brycheiniog yn dangos ei fod yn hannu o'r ardal honno; ategir hyn gan y wybodaeth fanwl am eglwysi Brycheiniog a welir yn ei awdl i Ddewi Sant. Mae cyfeiriadau eraill yn yr awdl honno yn dangos ei fod wedi ymweld â [[Tyddewi|Dyddewi]] a hefyd â [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], efallai.
 
==Ei waith==