Dafydd ab Owain Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CATEGORI
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Dafydd ab Owain Gwynedd''' (bu farw 1203) yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] neu rannau o'r deyrnas rhwng 1170 a 1195. Am gyfnod bu'n teyrnasu ar y cyd a'i frodyr [[Maelgwn ab Owain Gwynedd]] a [[Rhodri ab Owain Gwynedd]].
 
==Hanes ei fywyd==
Yr oedd Dafydd yn fab i [[Owain Gwynedd]] o'i wraig [[Cristin ferch Goronwy]]. Oherwydd fod Cristin yn gyfneither i Owain, nid oedd yr eglwys yn cydnabod y briodas, ac felly ystyrid Dafydd yn anghyfreithlon. Clywir amdano gyntaf yn [[1157]] pan ymosododd y brenin [[Harri'r II o Loegr]] ar Wynedd. Yr oedd Dafydd yn bresennol yn yr ysgarmes yng nghoed [[Penarlâg]] pan fu bron i Harri gael ei ladd. Yn 1165 yr oedd wedi ymsefydlu yn [[Dyffryn Clwyd|Nyffryn Clwyd]] ac mae cofnod amdano'n ymosod ar [[Tegeingl|Degeingl]].
 
Llinell 9 ⟶ 10:
Yn 1194 wynebodd Dafydd fygythiad arall, sef ei nai [[Llywelyn Fawr|Llywelyn ap Iorwerth]], a lwyddodd i'w orchfygu mewn brwydr yn Aberconwy gyda chymorth meibion Cynan ab Owain Gwynedd. Yn 1197 gallodd Llywelyn ddal Dafydd a'i garcharu. Fe'i rhyddhawyd y flwyddyn wedyn ar gais Hubert Walter, [[Archesgob Caergrawnt]], ac aeth i fyw i'w faenorau yn Lloegr. Bu farw yno ym mis Mai 1203.
 
==Noddwr Cyfeiriadauy beirdd==
Cedwir dwy gerdd i Ddafydd ab Owain Gwynedd gan y bardd-ryfelwr [[Gwilym Rhyfel]]. Er nad oes modd profi hynny, mae'n bosibl fod Gwilym yn aelod o osgordd y tywysog; bu farw mewn brwydr.
 
== Cyfeiriadau ==
*''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)