Yr Ymerodraeth Fysantaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Gweler hefyd: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|ca}} (10) using AWB
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 63:
[[Delwedd:Cherub plaque Louvre MRR245 n2.jpg|bawd|250px|Yr ymerawdwr Heraclius yn derbyn gwrogaeth Khosrau, brenin Persia.]]
 
Achubodd Khosrau, brenin Persia, y cyfle i ddiddymu ei gytundeb a Mauricius ac ail-gipio [[Mesopotamia]]. Roedd Phocas yn amhoblogaidd a bu nifer o gynllwynion yn ei erbyn. Yn y diwedd, diorseddwyd ef gan [[Heraclius]] yn [[610]]. Ymosododd y Persiaid ar [[Asia Leiaf]], gan gipio [[Damascus]] a [[Jeriwsalem]] a dwyn [[y Wir Groes]] i [[Ctesiphon]]. Llwyddodd Heraclius i ddinistrio'r fyddin Bersaidd ger [[NinevehNinefeh]] yn [[627]], a dychwelyd y Wir Groes i Jeriwsalem yn [[629]]. Roedd yr ymladd wedi gwanhau yr ymerodraeth Fysantaidd a'r Persiaid fel ei gilydd, gan ei gwneud yn anodd iddynt wrthsefyll y byddinoedd [[Arab]]aidd a ymosododd arnynt yn y blynyddoedd nesaf. Gorchfygwyd y Bysantiaid gan yr Arabiaid ym Mrwydr Yarmuk yn [[636]], tra syrthiodd Ctesiphon iddynt yn [[634]].
 
Heraclius oedd yr ymerawdwr cyntaf i ddefnyddio'r teitl Groeg ''[[Basileus]]'' (Βασιλεύς) yn lle'r teitl [[Lladin]] traddodiadol ''Augustus'', a dechreuwyd defnyddio Groeg yn lle Lladin mewn dogfennau swyddogol. Roedd llawer o ddadleuon diwinyddol rhwng y [[Monoffisiaeth|monoffisiaid]] a'r [[Chalcedoniaid]], ac awgrymodd Heraclius gyfaddawd, [[monotheletiaeth]], a gyhoeddwyd mewn dogfen a roddwyd ar narthex eglwys Hagia Sophia yn 638. Erbyn hyn roedd yr Arabiaid wedi cipio Syria a Palesteina, a syrthiodd [[yr Aifft]] iddynt yn 642.