Chwarel y Penrhyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
b
Llinell 8:
 
Cofnodir allforio llechi o Ystad y Penrhyn o 1713, pan yrrwyd 14 llwyth llong, 415,000 o lechi i gyd, i [[Dulyn|Ddulyn]]. Yr adeg yma roedd y llechi yn cael eu cario i’r porthladd ar gefnau ceffylau, ac yn nes ymlaen ar droliau. Hyd diwedd y [[18fed ganrif]] roedd chwareli bychain yn cael eu gweithio gan bartneriaethau o bobl leol, oedd yn talu rhent i’r tirfeddiannwr. Mae llythyr gan asiant Ystad y Penrhyn, John Paynter, yn [[1738]] yn cwyno fod cystadleuaeth oddi wrth lechi [[Chwarel y Cilgwyn]] yn effeithio ar werthiant llechi o Ystad y Penrhyn. Nid oedd chwarelwyr y Cilgwyn yn gorfod talu rhent i feistr tir, felly gallent werthu’r cynnyrch yn rhatach. Rhwng 1730 a 1740 dechreuodd y Penrhyn gynhyrchu llechi mwy, a rhoddasant enwau iddynt a ddaeth yn gyffredin trwy’r diwydiant, o’r ''Duchesses'', 24 modfedd wrth 12 modfedd, trwy’r ''Countesses'', ''Ladies'' a ''Doubles'' i’r lleiaf, y ''Singles''.
 
Mae chwarel nawr caead gan acha traddodiadol, ond yw nawr acha Alfred McAlpines.
 
==Datblygiad Chwarel y Penrhyn==