Tal y Fan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
pwt chwaneg / cat
Llinell 10:
 
 
'''Tal y Fan''' neyneu '''Tal-y-fan''' yw'r copa mwyaf gogleddol o'r [[Carneddau]], wedi ei wahanu oddi wrth [[Drum]] gan [[Bwlch y Ddeufaen|Fwlch y Ddeufaen]]. Saif ychydig i'r de o [[Penmaenmawr|Benmaenmawr]] ar yr arfordir ac i'r gorllewin o rannau isaf [[Dyffryn Conwy]]. Foel Lwyd yw'r copa fymryn yn is i'r gorllewin o'r prif gopa. Rhwng Tal y Fan a'r bryniau îs ger Penmaenmawr ceir rhosdir corslyd eang gyda [[afon Gyrrach]], sy'n tarddu ar Tal y Fan, yn rhedeg drosto.
 
Ceir nifer o olion cynhanesyddol ar ei lethrau isaf, yn arbennig o gwmpas Bwlch y Ddeufaen, lle roedd y [[Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm|ffordd Rufeinig]] yn dilyn llwybr ffordd lawer hŷn, o [[Oes yr Efydd]]. Yn eu plith y mae [[cromlech]] [[Maen y Bardd]], ar lethrau deheuol Tal y Fan.
 
Islaw llethrau dwyreiniol Tal y Fan ceir eglwys hynafol [[Llangelynin]].
 
Gellir dringo Tal y Fan o sawl cyfeiriad. Y llwybr hawsaf y'r hwnnw sy'n cychwyn o ben y lôn ym Mwlch y Ddeufaen. Gellir cyrraedd y copa o gyfeiriad [[Bwlch Sychnant]], eglwys Llangelynin, [[Rowen]], [[Penmaenmawr]] neu [[Llanfairfechan|Lanfairfechan]] yn ogystal.
 
 
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Eryri]]
[[Categori:Conwy]]
 
[[en:Tal y Fan]]