Tal y Fan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 14:
Ceir nifer o olion cynhanesyddol ar ei lethrau isaf, yn arbennig o gwmpas Bwlch y Ddeufaen, lle roedd y [[Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm|ffordd Rufeinig]] yn dilyn llwybr ffordd lawer hŷn, o [[Oes yr Efydd]]. Yn eu plith y mae [[cromlech]] [[Maen y Bardd]], ar lethrau deheuol Tal y Fan.
 
Islaw llethrau dwyreiniol Tal y Fan ceir eglwys hynafol [[Llangelynin]] ("yr Hen Eglwys" ar lafar).
 
Gellir dringo Tal y Fan o sawl cyfeiriad. Y llwybr hawsaf y'ryw hwnnw sy'n cychwyn o ben y lôn ym Mwlch y Ddeufaen. Gellir cyrraedd y copa o gyfeiriad [[Bwlch Sychnant]], eglwys Llangelynin, [[Rowen]], [[Penmaenmawr]] neu [[Llanfairfechan|Lanfairfechan]] yn ogystal.