Symbolau LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dechrau (trionglau, lambda a baner enfys)
 
symbolau deurywiol
Llinell 19:
[[Delwedd:Gay_flag.svg|bawd|chwith|200px|Fersiwn cyfredol y faner enfys.]]
Dyluniodd Gilbert Baker y faner enfys ar gyfer Dathliad Rhyddid Hoyw [[San Francisco]] 1978. Nid yw'r faner yn dangos [[enfys]], ond lliwiau'r enfys fel stribedi llorweddol, gyda choch ar y brig a phorffor ar y gwaelod. Mae'n cynrychioli amrywiaeth hoywon a lesbiaid ar draws y byd. Weithiau defnyddir stribed du, i gynrychioli [[gwrywdod]] neu [[isddiwylliant lledr|falchder lledr]], yn lle'r stribed porffor. Mae coch yn sefyll am fywyd, oren am iachâd, melyn am yr haul, gwyrdd am natur, glas am heddwch, a phorffor am enaid. Roedd gan y faner enfys wreiddiol dau stribed ychwanegol, pinc ac acwa, dau liw sy'n dynodi deurywioldeb. Mae'r dau liw hyn yn y Triongl Dwbl Deurywiol ac mae'r pinc yn debyg i'r triongl pinc. Mae'r faner enfys wreiddiol wyth-liw yn chwifio dros [[The Castro]] yn San Francisco ac uwchben y Ganolfan Gymunedol Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thrawsrywiol yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]].
 
==Trionglau Deurywiol==
[[Delwedd:bi triangles.svg|bawd|chwith|200px|Trionglau gorgyffyrddol (deurywioldeb)]]
Mae'r symbol hwn yn cynrychioli deurywioldeb a balchder deurywiol. Mae union darddiad y symbol hwn yn ansicr. Y syniad poblogaidd yw bod y triongl pinc yn sefyll am wrywgydiaeth ([[#Trionglau pinc a du|gweler uchod]]), tra bo'r glas yn sefyll am [[heterorywioldeb]]. Mae'r ddau gyda'i gilydd yn ffurfio'r lliw lafant, cymysgedd o'r ddau gyfeiriadedd rhywiol a lliw sydd wedi bod yn gysylltiedig â gwrywgydiaeth am bron i ganrif. Mae hefyd yn bosib bod pinc yn cynrychioli atyniad i fenywod, glas yn cynrychioli atyniad i wrywod a lafant yn cynrychioli atyniad i'r ddau.
 
==Baner ddeurywiol==
[[Delwedd:Bi flag.svg|bawd|200px|Baner falchder deurywiol]]
Yn 1988, dyluniodd Michael Page baner falchder deurywiol i gynrychioli'r gymuned ddeurywiol. Mae'n faner betryalog sy'n cynnwys stribed magenta llydan ar y brig, i gynrychioli atyniad i rai o'r un ryw; stribed glas llydan ar y gwaelod, i gynrychioli atyniad i rai o'r rhyw arall; a stribed lafant-tywyll cul yn y canol, sy'n cynrychioli atyniad i'r ddau ryw.
 
==Cysylltiadau allanol==