Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mae gan y ddinas newydd maer nawr.
Fixed typo
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 115:
== Cysylltiadau Cymreig ==
{{prif|Cymry Llundain}}
Yn anad un ddinas arall yn Lloegr mae gan Lundain gysylltiadau hir â [[Cymru|Chymru]]. Mae [[Cymry Llundain]] wedi cael eu disgrifio fel "yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru". O'r Oesoedd Canol Diweddar ymlaen, ceir cofnodion am Gymry yn ymweld â Llundain - ac weithiau'n aros yno - fel milwyr hur, masnachwyr, ac ati. Erbyn canol y ddeunawfed ganrif roedd cymuned bur sylweddol o Gymry alltud yn byw yno, naill ai dros dro neu'n barhaol. Am fod Cymru yn amddifad o brifddinas a chanolfannau trefol mawr, daeth Llundain yn ganolbwynt i lenorion a hynafiaethwyr hefyd a sefydlwyd sawl cymdeithas ddiwylliannol wladgarol yno, gan gynnwys y [[GweinidogionGwyneddigion]] a'r [[CymrodorionCymmrodorion]]. Sefydlwyd [[Ysgol Gymraeg Llundain]] a fu'n gartref dros dro i gasgliad pwysig o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymraeg]].
 
Daeth newid pwysig yn y 1950au a'r 1960au gyda chyhoeddi [[Caerdydd]] yn brifddinas Cymru a'r cynnydd mewn gwaith gweinyddol a ddaeth yn sgil hynny, a lleihaodd nifer y Cymry a aethai i Lundain er mwyn eu gyrfa broffesiynol. Amcangyfrifir gan rai bod tua 100,000 o bobl a aned yng Nghymru (heb sôn am bobl o dras Gymreig) yn byw yn Llundain heddiw, ond erbyn hyn mae rhwymau cymdeithas wedi llacio a bychan iawn mewn cymhariaeth â'r hen ddyddiau y mae cymdeithas Gymraeg/Gymreig y ddinas erbyn heddiw.