Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jendouba (talaith)"

Ychwanegwyd 87 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
llun
(rhyngwici)
(llun)
Mae '''Jendouba''' ([[Arabeg]]: ولاية جندوبة) yn [[taleithiau Tunisia|dalaith]] yn [[Tunisia]]. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad, ar y ffin ag [[Algeria]]. Mae pen gogleddol dyffryn [[afon Medjerda]] yn gorwedd yn y dalaith, sy'n codi yn y gogledd a'r dwyrain i fynyddoedd y [[Kroumirie]]. [[Jendouba]] yw canolfan weinyddol y dalaith a'i dinas fwyaf o bell ffordd. Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,102 km² a phoblogaeth o 417,000 (cyfrifiad 2004).
 
[[Delwedd:Cefn gwlad Jendouba.JPG|250px|bawd|chwith|Cefn gwlad Jendouba yn y gwanwyn]]
Bu'r dalaith yn rhan o [[Affrica (talaith Rufeinig)|dalaith Rufeinig Affrica]] a dan reolaeth brenhinoedd [[Numidia]] o bryd i'w gilydd, a cheir sawl safle archaeolegol yno. Y pwysicaf o'r rhain yw dinas Rufeinig [[Bulla Regia]], yn agos i ddinas Jendouba, a [[Chemtou]] a [[Thubernica]] yn y gogledd.