Jendouba (talaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Bu'r dalaith yn rhan o [[Affrica (talaith Rufeinig)|dalaith Rufeinig Affrica]] a dan reolaeth brenhinoedd [[Numidia]] o bryd i'w gilydd, a cheir sawl safle archaeolegol yno. Y pwysicaf o'r rhain yw dinas Rufeinig [[Bulla Regia]], yn agos i ddinas Jendouba, a [[Chemtou]] a [[Thubernica]] yn y gogledd.
 
Mae rheilffordd yn cysylltu'r dalaith â [[Tunis]] i'r dwyrain ac ag Algeria i'r gorllewin. Ar wahân i Jendouba ei hun, yr unig drefi eraill o bwys yw [[Ghardimao]], y dref olaf cyn Algeria, a [[Bou Salem]]. Llai poblog ond o bwys fel canolfannau lleol yw brynfa uchel [[Aïn Draham]] a thref glan môr [[Tabarka]]. Yn y bryniau coediog ceir nifer o bentrefi fel Souk Djemaa. Fel yn achos gweddill y rhan yma o'r wlad, mae talaith Jendouba yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gyda siawns o eira ar y bryniau.