Foel-fras: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 11:
Mynydd yn y [[Carneddau]] yn [[Eryri]] yw '''Foel-fras''' neu '''Foel Fras'''. Saif ar brif grib y Carneddau rhwng [[Foel Grach]] a [[Drum]], uwchben pentref [[Abergwyngregyn]].
 
Foel-fras yw'r pellaf i'r gogledd o'r 14 copa yn Eryri sydd dros 3,000 o droedfeddi o uchder (mae Drum ychydig oddi tan yr uchder yma). I'r de iddo mae'r llechweddau yn arwain i lawr at [[Llyn Dulyn (Carneddau)||Lyn Dulyn]], tra mae [[Llyn Anafon]] i'r gogledd o'r copa.
 
Gellir dringo'r mynydd trwy ddilyn y ffordd fychan o Abergwyngregyn sy'n arwain heibio'r maes parcio ar gyfer Rhaeadr Fawr ac yn diweddu mewn maes parcio bychan. Oddi yma gellir cymeryd y llwybr i'r chewith o'r maes parcio a dilyn trac amlwg, gan droi i'r dde lle mae arwyddbost yn cyfeirio at Drum. Wedi cyrraedd copa Drum gellir dilyn y grib i gopa Foel-fras. Dewis arall yw ymuno a'r ffordd drol i Lyn Anafon, ac yna dringo i fyny i'r grib rhwng Drum a Foel-fras.