259
golygiad
No edit summary |
(Wedi twtio tipyn fel man cychwyn, wedi cynnwys rhestr gyfredol o athrofeydd Aberystwyth, nodi'r adrannau academaidd, a chynnwys gwybodaeth cyfredol yn ol gwefan Aber am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mwy i wneud - ond man cychwyn fan lleiaf!) |
||
Prifysgol yn [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]] yw '''Prifysgol Aberystwyth'''. Hyd fis Medi 2007 ei henw swyddogol oedd '''Prifysgol Cymru, Aberystwyth'''. Yn [[1872]] yr agorwyd sefydliad [[prifysgol]] cyntaf [[Cymru]] — 'y Coleg ger y Lli'. Y prifathro cyntaf oedd [[Thomas Charles Edwards]], ac ar y cychwyn 26 o fyfyrwyr oedd yn astudio yno. Bellach, mae yno dros 7,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron i 2,000 o Gymru, a thros 1,100 o uwchraddedigion. Mae yno ddeunaw adran academaidd, sy'n dysgu ystod eang o bynciau.
Mae chwech Athrofa oddi fewn i Brifysgol Aberystwyth:
* Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
* Athrofa Datblygu Proffesiynol
* Athrofa Busnes a’r Gyfraith
* Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth & Seicoleg
* Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol
* Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg
a deunaw o Adrannau academaidd gan gynnwys Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yr Adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol (yr adran hynnaf o'i fath yn y byd) a'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylghcheddol a Gwledig sy'n adnabyddus yn fyd-eang am ei ymchwil.<ref>https://www.aber.ac.uk/cy/university/institutes/ Adalwyd ar 21 Tachwedd 2016</ref>
[[Delwedd:Arfbais Prifysgol Aberystwyth.png|bawd|chwith|Arfbais y Brifysgol.]]
Mae modd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod eang iawn o feysydd bellach ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda dros 300 o gyrsiau bellach ar gael ble gellir astudio yn rhannol neu yn gyfan gwbl yn Gymraeg.<ref>https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/astudio-cyfrwng-cymraeg/ Adalwyd 21/11/16</ref>
== Y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ==
|
golygiad