Cywydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwahaniaethu
Troi tud. gwahaniaethu yn erthygl
Llinell 1:
Y '''cywydd''' oedd un o fesurau mwyaf poblogaidd y beirdd ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, cymaint felly fel y cyfeirir at [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]] fel "Y Cywyddwyr" yn draddodiadol. Mae'r cywydd yn aros yn un o'r mesurau [[Cerdd Dafod]] mwyaf poblogaidd heddiw.
Ceir sawl ffurf ar y '''Cywydd''', un o fesurau mwyaf poblogaidd [[Cerdd Dafod]] ers diwedd yr Oesoedd Canol:
 
Yn ei hanfod, cwpled o ddwy linell saith sillaf yr un yw'r cywydd. Addurnir y cwpledi â'r [[cynghanedd|gynghanedd]].
 
Daw'r cywydd i'r golwg yng ngwaith y beirdd yn hanner cyntaf y [[14eg ganrif]]. Does dim enghraifft o'r mesur yng ngwaith [[Beirdd y Tywysogion]], ond ni ellir profi na dadbrofi nad oedd yn bodoli ar ryw ffurf fel un o fesurau'r [[Clêr|Glêr]] (beirdd isradd) cyn y 14eg ganrif. Mae [[Thomas Parry]] yn damcaniaethu y cafodd un o fesurau poblogaidd y Glêr ei gywreinio a'i ddatblygu i ffurfio'r cywydd ar ddechrau'r 14eg ganrif.
 
Yng [[Gramadeg Einion Offeiriad|Ngramadeg]] [[Einion Offeiriad]] (tua [[1330]]?) dywedir fod pedwar math o gywydd:
*[[Awdl-Gywydd]], hen fesur
*[[Cywydd Deuair Hirion]], y ffurf sy'n fwyaf adnabyddus heddiwo alawer heddiw; hoff fesur [[Beirdd yr Uchelwyr]]
*[[Cywydd Deuair Fyrion]]
*[[Cywydd Llosgyrnog]]
 
Ymhlith meistri mawr y cywydd yn yr Oesoedd Canol gellid crybwyll [[Dafydd ap Gwilym]] a [[Llywelyn Goch ap Meurig Hen]], dau o'r arloeswyr cynnar, a [[Gruffudd Gryf]] a [[Iolo Goch]]; [[Guto'r Glyn]], [[Dafydd Nanmor]] a [[Lewys Glyn Cothi]] yn y ganrif olynol; a [[Tudur Aled]], [[Lewys Môn]] a [[Wiliam Llŷn]] yn yr [[16eg ganrif]].
{{gwahaniaethu}}
 
Cafwyd adfywiad ar y cywydd yn y [[18fed ganrif]], diolch yn bennaf i waith beirdd fel [[Goronwy Owen]] a [[Lewis Morris]]. Roedd [[Iolo Morgannwg]] yn medru cyfansoddi cywyddau campus yn ogystal, er iddo dadogi nifer ohonynt ar feirdd canoloesol fel Dafydd ap Gwilym. Er i'r cywydd golli allan i'r [[awdl]] [[eisteddfod]]ol a'r canu [[telyneg]]ol newydd yn y [[19eg ganrif]], adenillodd ei fri yn yr [[20fed ganrif]] ac mae'n aros yn fesur poblogaidd gan y beirdd [[Cerdd Dafod|caeth]] cyfoes. Mae'n un o fesurau awdl gosod y Gadair yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Genedlaethol]].
 
==Llyfryddiaeth==
*Aneirin Talfan Davies (gol.), ''Englynion a Chywyddau'' (Llyfrau'r Dryw). Ceir traethawd byr ond pwysig gan Thomas Parry ar hanes y cywydd.
*Donald Evans (gol.), ''Y Flodeugerdd o Gywyddau'' (1981)
 
 
[[Categori:Termau llenyddol]]
[[Categori:Beirdd yr Uchelwyr]]
[[Categori:Y Traddodiad Barddol]]
[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]]
 
[[fr:Cywydd]]