Math fab Mathonwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Moch Pryderi a threisio Goewin==
Yn ôl y chwedl, ni allai Math fab [[Mathonwy]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] fyw ond tra byddai â'i ddeudroed yng nghôl morwyn, ag eithrio yn amser rhyfel. Goewin ferch Pebin oedd y forwyn yn y swydd yma ar ddechrau'r chwedl. Syrthiodd nai Math, [[Gilfaethwy fab Dôn]], mewn cariad a hi, a gofynnodd am gymorth ei frawd, y dewin [[Gwydion fab Dôn]]. Cynllun Gwydion yw trefnu rhyfel trwy deithio i [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] at [[Pryderi]], prif gymeriad y gainc gyntaf o'r Mabinogi. Mae'n perswadio Pryderi i roi iddo y moch a gafodd gan Arawn yn gyfnewid am feirch a chŵn hela, ond wedi i Wydion adael gyda'r moch mae Pryderi'n darganfod mai rhith yw'r cŵn a'r meirch ac yn ei ymlid. Lleddir Pryderi yn yr ymladd, ac yn absenoldeb Math caiff Gilfaethwy ei gyfle i dreisio Goewin yng ngwely Math. Dychwelodd Math i [[Caer Dathyl|Gaer Dathyl]] ac ar ddarganfod yr hyn oedd wedi digwydd cymerodd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.
 
==Cosbi Gwydion a Gilfaethwy==