Chwarel y Penrhyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
uno dwy frawddeg
Dim crynodeb golygu
Llinell 24:
Ar 22 Tachwedd 1900 dechreuodd ail streic (neu ail gloi-allan), a barhaodd am dair blynedd. Roedd yr achosion yn gymhleth, ond roeddynt yn cynnwys cynnydd yn yr arfer o osod rhannau o’r chwarel i gontractwyr. Yn hytrach na chytuno ar eu bargeinion eu hunain, roedd y chwarelwyr wedyn yn gweithio am gyflog i’r contractwyr. Nid oedd gan yr undeb ddigon o arian i dalu tâl streic digonol, a bu cyni mawr ymysg y 2,800 o weithwyr. Ail agorodd Arglwydd Penrhyn y chwarel ym mis Mehefin 1901, a dychwelodd tua 500 o weithwyr iddi. Ystyrid hwy yn “Fradwyr” gan y gweddill. Yn y diwedd bu raid i’r gweithwyr ddychwelyd i’r chwarel ym mis Tachwedd 1903 ar delerau Arglwydd Penrhyn. Gwrthodwyd ail-gyflogi llawer o’r gweithwyr oedd wedi bod yn amlwg yn yr undeb, a gadawodd llawer o weithwyr yr ardal yn barhaol. Gadawodd yr anghydfod etifeddiaeth o chwerwder yn ardal Bethesda.
 
Mae Chwarel y Penrhyn y parhau i gynhyrchu llechi, ond ar raddfa llawer llai nag yn ystod oes aur y diwydiant. Yn 1995, cynhyrchai bron 50% o gynnyrch llechi y Deyrnas Unedig. Eiddo AlfredWelsh McAlpineSlated PLCLtd, isgwmni Grŵp Lagan, yw’r chwarel bellach.
 
==Llyfryddiaeth==