Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 5:
S'mai, be oedd y rheswm ddileu'r categori [http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Prifysgol_Toronto&diff=194191&oldid=194190 yma]? A'i camgymeriad oedd o neu wnesi i rhywbeth o'i le?--[[Defnyddiwr:Ben Bore|Ben Bore]] 15:28, 13 Medi 2007 (UTC)
:Mae'n well defnyddio categorïau mawr (neu categorïau a fydd yn tyfu i fod yn fawr) fel categori Prifysgolion ar gyfer categorïau eraill neu ar gyfer erthyglau sy'n trafod agweddau cyffredinol ar y pwnc. Fel arall, mae'r categorïau hyn yn gorlenwi ac yn dod yn ddiwerth. Mae'r erthygl Prifysgol Toronto yn y categori Prifysgolion Canada, ac mae'r categori Prifysgolion Canada yn perthyn i'r categori Prifysgolion. Felly mae'n well osgoi rhoi Prifysgol Toronto (a phob prifysgol unigol arall) yn y categori Prifysgolion. Rhyw ddydd, wnawn ni greu categori Prifysgolion Ontario, a bydd Prifysgol Toronto yn diflannu o'r categori uwch, Prifysgolion Canada (ond fe fydd Prifysgolion Ontario yn perthyn i'r categori Prifysgolion Canada). Yn y bôn, y syniad yw bod rhaid meddwl am berthynas y categorïau a'i gilydd. Mae'r un peth wrth gwrs yn digwydd ymhobman ar Wicipedia - dyw Rhodri Morgan ddim yn mynd i mewn i'r categori Gwleidyddion ond i gategorïau mwy penodol megis Gwleidyddion Cymru neu Prif Weinidogion Cymru, ayyb. [[Defnyddiwr:Daffy|Daffy]] 22:40, 13 Medi 2007 (UTC)
::Diolch am yr esboniad. Mae hynny'n ddigon teg ag yn gwneud synnwyr. Yr rheswm oeddwn i'n cwestiynnu'r peth oedd achos bod yna sawl prifysgol arall o fewn y caregori, ond dwi'n cymeryd bydd rhain yn difladu wedi ail-drefnu'r categoriau.--[[Defnyddiwr:Ben Bore|Ben Bore]] 10:41, 14 Medi 2007 (UTC)
 
== Ffynhonell afon ==