Symbolau LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
symbolau deurywiol
symbolau trawsryweddol
Llinell 1:
Fel nifer o gymunedau a mudiadau eraill, mae aelodau'r gymuned [[lesbiaeth|lesbiaidd]], [[hoyw]], [[deurywiol]] a [[trawsrywioltrawsryweddol|thrawsrywiolthrawsryweddol]] ([[LHDT]]) wedi mabwysiadu rhai symbolau i'w huniaethu a'u huno.
 
==Trionglau pinc a du==
[[Delwedd:Pink triangle.svg|bawd|125px|chwith|Defnyddiwyd y triongl pinc yn wreiddiol i ddynodi dynion gwrywgydiol fel bathodyn mewn gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid.]]
[[ImageDelwedd:Black triangle.svg|right|thumbbawd|125px|Defnyddiwyd y triongl du i ddynodi lesbiaid, [[puteindra|puteiniaid]], menywod a ddefnyddiodd [[rheolaeth cenhedlu]], ac eraill mewn gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid.]]
{{gweler|Hanes hoywon yn yr Almaen Natsïaidd a'r Holocost}}
Un o'r symbolau hynaf yw'r [[triongl pinc]], sydd a'i wreiddiau yn y [[Bathodynnau y gwersylloedd crynhoi Natsïaidd|bathodynnau]] a orfodwyd i wrywgydwyr wisgo ar eu dillad yn y [[gwersylloedd crynhoi Natsïaidd]]. Amcangyfrifwyd i gymaint â 220 000 o hoywon a lesbiaid golli eu bywydau yn ogystal â'r chwe miliwn o [[Iddew]]on, [[Sipsiwn]], [[Comiwnyddion]] ac eraill a laddwyd gan y Natsïaid yn eu [[gwersylloedd difa]] yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]] fel rhan o [[Yr Ateb Terfynol|Ateb Terfynol]] [[Adolf Hitler|Hitler]]. Am y rheswm hwn, defnyddir y triongl pinc fel symbol o hunaniaeth ac i gofio'r erchyllterau a ddioddefant hoywon o dan yr erlidwyr Natsïaidd. Mabwysiadodd [[ACT-UP]] (''AIDS Coalition to Unleash Power'') y triongl pinc gwrthdro hefyd i symboleiddio'r frwydr yn erbyn [[AIDS]].
Llinell 20:
Dyluniodd Gilbert Baker y faner enfys ar gyfer Dathliad Rhyddid Hoyw [[San Francisco]] 1978. Nid yw'r faner yn dangos [[enfys]], ond lliwiau'r enfys fel stribedi llorweddol, gyda choch ar y brig a phorffor ar y gwaelod. Mae'n cynrychioli amrywiaeth hoywon a lesbiaid ar draws y byd. Weithiau defnyddir stribed du, i gynrychioli [[gwrywdod]] neu [[isddiwylliant lledr|falchder lledr]], yn lle'r stribed porffor. Mae coch yn sefyll am fywyd, oren am iachâd, melyn am yr haul, gwyrdd am natur, glas am heddwch, a phorffor am enaid. Roedd gan y faner enfys wreiddiol dau stribed ychwanegol, pinc ac acwa, dau liw sy'n dynodi deurywioldeb. Mae'r dau liw hyn yn y Triongl Dwbl Deurywiol ac mae'r pinc yn debyg i'r triongl pinc. Mae'r faner enfys wreiddiol wyth-liw yn chwifio dros [[The Castro]] yn San Francisco ac uwchben y Ganolfan Gymunedol Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thrawsrywiol yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]].
 
==Trionglau Deurywioldeurywiol==
[[Delwedd:bi triangles.svg|bawd|chwith|200px|Trionglau gorgyffyrddol (deurywioldeb)]]
Mae'r symbol hwn yn cynrychioli deurywioldeb a balchder deurywiol. Mae union darddiad y symbol hwn yn ansicr. Y syniad poblogaidd yw bod y triongl pinc yn sefyll am wrywgydiaeth ([[#Trionglau pinc a du|gweler uchod]]), tra bo'r glas yn sefyll am [[heterorywioldeb]]. Mae'r ddau gyda'i gilydd yn ffurfio'r lliw lafant, cymysgedd o'r ddau gyfeiriadedd rhywiol a lliw sydd wedi bod yn gysylltiedig â gwrywgydiaeth am bron i ganrif. Mae hefyd yn bosib bod pinc yn cynrychioli atyniad i fenywod, glas yn cynrychioli atyniad i wrywod a lafant yn cynrychioli atyniad i'r ddau.
Llinell 27:
[[Delwedd:Bi flag.svg|bawd|200px|Baner falchder deurywiol]]
Yn 1988, dyluniodd Michael Page baner falchder deurywiol i gynrychioli'r gymuned ddeurywiol. Mae'n faner betryalog sy'n cynnwys stribed magenta llydan ar y brig, i gynrychioli atyniad i rai o'r un ryw; stribed glas llydan ar y gwaelod, i gynrychioli atyniad i rai o'r rhyw arall; a stribed lafant-tywyll cul yn y canol, sy'n cynrychioli atyniad i'r ddau ryw.
 
==Symbolau trawsryweddol==
[[Delwedd:A TransGender-Symbol Plain3.svg|chwith|bawd|120px|Symbol trawsryweddol ([[commons:User:ParaDox/TransGender-Symbol-Series-2006-A|amrywiolion]])]]
{{gweler|Symbolau rhyweddol}}
Mae symbolau trawsryweddol poblogaidd, a ddefnyddir i gynrychioli [[trawswisgo|trawswisgwyr]], [[trawsrywiol]]ion a phobl drawsryweddol eraill, gan amlaf yn cynnwys symbol biolegol addasedig, sy'n tarddu o lun gan Holly Boswell. Yn ogystal â'r saeth sy'n ymestyn o dde brig y cylch sef y symbol biolegol am y gwryw (o'r symbol seryddol am [[Mawrth (planed)|Fawrth]]), ac yn ogystal â'r groes sy'n ymestyn o waelod y cylch sef y symbol biolegol am y fenyw (o'r symbol seryddol am [[Gwener (planed)|Wener]]), mae'r symbol yn cynnwys y ddwy ddyfais hon â chroes gyda phen saeth (sy'n cyfuno'r motiffau gwrywol a benywol) sy'n ymestyn o chwith brig y cylch.
 
[[Delwedd:Transgender Pride flag.svg|bawd|200px|Baner falchder deurywiol]]
Symbol trawsryweddol arall yw'r faner falchder trawsryweddol a ddyluniwyd gan Monica Helms, a ddangoswyd yn gyntaf mewn parêd balchder yn [[Phoenix, Arizona]], UDA, yn 2000. Mae'n cynnwys pum stribed llorweddol: dau yn las golau, dau'n binc, a stribed gwyn yn y canol. Disgrifiodd Helms ystyr y faner fel y ganlyn:
 
<blockquote>"Mae'r glas golau yn lliw traddodiadol ar gyfer bechgyn babanaidd, mae pinc ar gyfer merched, ac mae'r gwyn yn y canol ar gyfer y rhai sy'n trawsnewid, y rhai sy'n teimlo fod ganddynt rywedd niwtral neu ddim rhywedd, a'r rhai sy'n yn rhyngrywiol. Y fath batrwm yw hi fel pa bynnag ffordd caiff ei hedfan, bydd hi pob amser yn gywir. Mae hyn yn symboleiddio ni yn trio darganfod cywirdeb mewn bywydau ein hunain."</blockquote>
 
Mae symbolau trawsryweddol eraill yn cynnwys y [[glöyn byw]] (sy'n symboleiddio trawsffurfiad neu [[metamorffosis|fetamorffosis]]), a symbol [[yin a yang]] pinc/glas golau.
 
==Cysylltiadau allanol==
{{comin|Category:LGBT symbols|Categori:Symbolau LHDT}}
*{{eicon en}} [http://www.swade.net/gallery/symbols.html Delweddau o symbolau LHDT a gwybodaeth hanesyddol amdanynt]
 
[[Categori:Symbolau LHDT| ]]