Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Speculum duorum"

Ychwanegwyd 45 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Tudalen newydd: 180px|bawd|Geralt Gymro Mae'r '''''Speculum duorum''''' (Lladin: "Drych deuddyn") yn llythyr hir athronyddol yn yr iaith Ladin a ysg...)
 
B
[[Delwedd:Gerallt_Gymro_00dg.JPG|180px|bawd|Geralt Gymro]]
Mae'r '''''Speculum duorum''''' ([[Lladin]]: "Drych deuddyn") yn llythyr hir athronyddol yn yr iaith [[Lladin|Ladin]] a ysgrifennwyd gan [[Gerallt Gymro]] ac a adawyd yn anorffenedig ganddo yn y flwyddyn [[1216]].
 
Mae'r ''Speculum'' yn waith anorffenedig sydd ymhlith y mwyaf personol a dadlennol o weithiau'r awdur toreithiog. Ysgrifennodd Gerallt y gwaithllyfr yn hwyr yn ei oes. Mae'n llawn o gywiriadau a ''lacunae'' sy'n dangos ei fod yn bwriadu ehangu a chywiro'r gwaith cyn ei gyhoeddi, ond ymddengys na chafodd y cyfle i wneud hynny.
 
Llythyr mewn ymateb i honiadau personol ac enllibus braidd yn ei erbyn gan ei nai [[Hubert Walter]] ydyw'r ''Speculum duorum''. Cafodd Hubert ei ddyrchafu i archddeaconiaeth [[Aberhonddu]] yn [[1203]], diolch yn bennaf i ymyrraeth a dylanwad ei ewythr, Gerallt.
 
Dechreau Gerallt trwy amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau yn ei erbyn gan roi nifer o fanylion am hanes [[esgobaeth Tyddewi]] yn y broses. Yna mae'r llythyr yn ehangu ac yn troi'n draethawd amlochrog ar natur dyn sy'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o'r [[Beibl|Ysgrythurau]], [[Tadau'r Eglwys]] a sawl awdur arall, o'r [[Oesoedd Canol]] a'r [[Henfyd]]. Ond yn fwy diddorol o safbwynt [[hanes Cymru]] yw'r cyfeiriadau a disgrifiadau niferus sy'n ymwneud â [[Cymru|Chymru]] oes Gerallt, e.e. disgrifiad manwl o wisg Cymry'r cyfnod.
 
Yn fwy felly na mewn unrhyw un o'i lyfrau eraill, cawn cipolwg ar y dyn ei hun sy'n datgelu personoliaeth gymhleth a meddwl bywiog dyngŵr balch ond dynol oedd yn meddu ar ddysg eang a dwfn.
 
==Llyfryddiaeth==