Areithiau Pros: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Yr Areithiau Pros''' yw'r enw a fathwyd gan [[D. Gwenallt Jones]] i ddisgrifio grŵp o ddarnau [[rhyddiaith]] [[rhethreg|rethregol]] yn y [[Gymraeg]]. Mae'r rhan fwyaf o'r Areithiau yn waith awduron anhysbys ac yn anodd ei dyddio'n fanwl, ond gellir dweud eu bod yn perthyn i'r [[Yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru|Oesoedd Canol Diweddar]] a dechrau'r [[Cyfnod Modern]]. O ran iaith ac arddull mae'r Areithiau yn rhychwantu'r bwlch rhwng [[Cymraeg Canol]] a [[Cymraeg|Chymraeg Diweddar]].
 
[[Parodi|Parodïau]] llenyddol gan ysgrifennwyr hyddysg yn nhraddodiadau [[Cymru]] a'i [[llenyddiaeth]] yw'r Areithiau. Gellid eu hystyried yn gyfraniad [[llenyddiaeth Gymraeg]] i draddodiad o weithiau tebyg yn Ewrop. Mae'r traddodiad hwnnw yn cychwyn yng [[Groeg yr Henfyd|Ngroeg yr Henfyd]] gydag areithiau'r [[soffydd]]ion a gwaith awduron dychanol fel [[Lucian]] ac yn cyrraedd ei uchafbwynt ar y cyfandir yng nwaithngwaith awduron fel [[Cervantes]] a [[Rabelais]]. Ond mae eu gwreiddiau yn ddwfn yn y traddodiad Cymreig a [[Celtiaid|Cheltaidd]] hefyd, lle gwelir arddulliau rhethregol mewn chwedlau [[Gwyddeleg Canol]] a chwedlau Cymraeg fel ''[[Culhwch ac Olwen]]'' a ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]''.
 
==Y testunau==