Harri III, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wici Rhuthun 1 (sgwrs | cyfraniadau)
ydy hwn yn help?
Wici Rhuthun 1 (sgwrs | cyfraniadau)
William Marshal, Iarll 1af Penfro
Llinell 1:
[[Delwedd:Henry III funeral head.jpg|bawd|200px|Brenin Harri III]]
 
'''Harri III''' ([[1 Hydref]] [[1207]] - [[16 Tachwedd]] [[1272]]), oedd brenin [[Lloegr]] o [[19 Tachwedd]], [[1216]] hyd ei farw. Roedd yn fab i [[John, brenin Lloegr]] a'r frenhines [[Isabella o Angouleme]]. Roedd yn frawd i [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)|Siwan]], gwraig [[Llywelyn Fawr]]. Eifeddodd yr orsedd pan oedd yn ddim ond naw oed yn ystod Rhyfel Cynta'r Bwrniaid. Arweiniwyd milwyr Harri gan [[William Marshal, Iarll 1af Penfro]] gan drechu'r gwrthryfelwyr ym Mrwydr Lincoln a Sandwich yn 1217. [[William Marshal]] oedd ei ymgeleddwr, wedi'r marwolaeth y brenin John.
 
Cymerodd Harri lw y byddai'n ffyddlon i Siarter Mawr1225, a oedd yn cyfyngu hawliau'r Brenin ac yn dyrchafu hawliau'r barwniaid. Ar ddechrau ei frenhiniaeth, domineiddiwyd ei arweinyddiaeth gan Hubert de Burgh ac yna Peter des Roches, a wnaeth dro pedol gan drosglwyddo'r hawliau yn ôl i'r brenin. Ceisioidd y brenin, yn aflwyddiannus drechu [[Ffrainc]] - y rhan a fu ar un tro'n eiddo i'w dad. Yn 1232 gwrthryfelodd [[William Marshal, 2il Iarll Penfro|mab William Marshal]], a oedd o'r un enw a'i dad, yn erbyn y brenin, ond daeth yr Eglwys i gymodi rhyngddynt a chafwyd cyfnod o heddwch.
 
==Manylion personnol==