Alegori: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Llyfryddiaeth
Llinell 9:
:''Yr hyn bethau ydynt mewn alegori (W. Salesbury: KLl xixb, ar ddamec; TN 282a, Wrth y petheu hyn y dyellir peth arall; 1588 Gal iv. 24, a arwyddocânt beth arall).''
 
Mae diffiniad Salesbury yn taro'r hoelen ar ei benphen: alegori yw dweud un peth gan olygu peth arall, yn debyg felly i drosiad mewn barddoniaeth. Diffinir y gair yng Ngeiriadur y Brifysgol fel: cyfansoddiad, darlun, ayb, sy’n dwyn ail ystyr ffigurol, aralleg.<ref>[http://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur y Brifysgol;] adalwyd 21 Tachwedd 2016</ref>
 
==Engreifftiau==
[[Delwedd:Twm o'r Nant (Ceinion Llenyddiaeth Gymreig).JPG|bawd|280px|Twm o'r Nant (Thomas Edwards). Engrafiad o'r 19eg ganrif seiliedig ar bortread o ddiwedd y 18fed ganrif o'r dramodydd enwog. Cyhoeddwyd yn Ceinion Llenyddiaeth Gymreig gan Owen Jones (1876).]]
 
Lluniodd [[John Bunyan]] hanes [[Taith y Pererin|pererindod y Cristion]] drwy 'anialwch' y byd hwn, ac yn hytrach na galw'r pererin yn 'John', galwodd ef yn 'Gristion'. Rhoddodd iddo gyfaill ffyddlon, ac yn lle ei alw'n 'William', galwodd ef yn 'Ffyddlon'. Pan ddaw at ffair sy'n cynrychioli gwagedd a chors sy'n cynrychioli anobaith, fe'ui gelwir yn 'Ffair Wagedd' (''Vanity Fair'') a 'Chors Anobaith' (''the Slough of Despond'')... ac felly ymlaen.
 
Wrth gyflwyno'i gerdd hir 'Bywyd a Marwolaeth Theomemphus', mynnodd [[William Williams (Pantycelyn)]]: 'Ni ellir ei alw yn alegori, am fod y personau yn wir ddynion'. Ond anodd meddwl nad oes dyled i'r traddodiad alegorïaidd yn enw Theomemphus (Ceisiwr Duw), ac enwau cymeriadau eraill megis Aletheius (Gwirionedd), Seducus (Hud-ddenwr), Abasis (Disylfaen), Philomede (Hoff o Fwlio) ayb. Nid yw hyn yn eu rhwystro iddyntrhag fodbod yn 'wir ddynion', mwy nag y rhwystrodd gymeriadau Bunyan.
 
Bu alegori yn un o hoffterau mawr bydoedd llenyddol yr [[Oesoedd Canol]] a'r [[Dadeni Dysg|Dadeni]]. Gwaith poblogaidd a mawr ei ddylanwad fu ''Le Roman de la Rose'', o ddwylo dau awdur [[Ffrangeg]] o'r [[13g]]-[[14g]], yn dilyn troeon yr ymchwil am y rhosyn prin, sef Serch. Ceir cymeriadau fel Bel-Accueil (Croeso), Dangier (Perygl) a Faux-Semblant (Rhagrith). Alegorïaidd drwyddi yw ''The Faerie Queene'' gan Edmund Spenser, epig [[Saesneg]] [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|Oes Elizabeth]]. Ceir elfen alegorïaidd gref yng ngweithiau [[Morgan Llwyd]] yn y [[17g]], yn enwedig rhwng cloriau ''Llyfr y Tri Aderyn'', ac ymhen canrif eto fe'i gwelir drwy anterliwtiau [[Twm o'r Nant]]: lle gelwir y Cybyddion yn 'Rhinallt Ariannog', 'Hywel Dordyn', 'Mr Blys y Cwbl', a'r Ffyliaid yn 'Syr Iemwnt Wamal', 'Mr Rhyfyg Natur', 'Mr Pleser', 'Mr Oferedd'; i ymuno â hwy daw 'Cariad Perffaith', 'Gofid', 'Cydwybod', 'Madam Duwioldeb Crefydd' a nifer o rai eraill.
 
Erbyn [[Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig|Oes Victoria]] darfyddasaidarfuasai alegori yn ei ffurf buraf, ond erys gweddillion ohono yn [[Nofel|y nofel]]. Yng ngwaith [[Charles Dickens]] nid oes fawr amheuaeth sut ddyn yw 'Mr Gradgrind' na sut ysgol yw 'Dotheboys Hall'. Mae ambell gymeriad gan [[Daniel Owen]] ag arlliw alegorïaidd ar ei enw, – 'Sharp Rogers', 'Mr Smart' a 'Mr Strangle'. Amgylchynir 'Ffermwr Careful Cilhaul Uchaf' yn stori [[Samuel Roberts]] gan lu o gymeriadau ag enwau Saesneg neu hanner-Saesneg eto: Ned Slow a'i wraig Peggy Slwt Slow, Billy Active, Tomi Strong ayb.
 
Fel doniolwch y goroesodd elfennau alegorïaidd i'r [[20g]], ond gwelwn gysondeb alegori drwy ddameg enwog [[George Orwell]], ''Animal Farm'', gyda phob anifail yn cynrychioli rhyw garfan neu'i gilydd yn nhrybestod [[Comiwnyddiaeth|y Chwyldro Comiwnyddol]].