Wicidata: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cy
cyfoes
Llinell 21:
Cafodd ei lansio ar 30 Hydref 2012 ac ar 21 Chwefror y flwyddyn honno fe'i gwelwyd oddi fewn i'r Wicipedia Cymraeg pan ddechreuwyd canoli'r dolennau ieithoedd. Y bwriad gwreiddiol oedd cadw data ffeithiol nad yw'n newid (e.e. hyd afon neu ddyddiad geni) yn ganolog, gyda'r wybodaeth honno'n cael ei galw'n otomatig i wybodlenni a phrosiectau eraill Wicimedia.
 
Ar 19 Tachwedd 2015, ychwanegwyd rhestr o baentiadau ar y ddalen [[Rhestr o luniau gan Jacob van Ruisdael]], a oedd yn defnyddio'r "Nodyn:Wikidata list" i alw'r data o gronfa ddata Wicidata i'r dudalen ar Wicipedia. Ym Mehefin 2016 crewyd rhestr o eglwysi a enwyd ar ôl [[Beuno]], ac erbyn Hydref y flwyddyn honno crewyd 9,500 o restri Wicidata ar ar adar. Yng Ngorffennaf 2016 galluogwyd Gwybodlen gyfan a oedd yn tynnu data o Wicidata: [[Telesgop Pegwn y De]]. Erbyn Rhagfyr 2016 roedd gan cy-wici dair gwaith mwy o restri Wicidata na phob Wicipedia arall (dros 290 o ieithoedd) gyda'i gilydd.
 
==Gweler hefyd==