Twm o'r Nant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cywiro enw lle ( ( Dwy 'n' yn Llannefydd)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
bedd
Llinell 42:
==Gyrfa==
Ganwyd Twm o'r Nant ym Mhenporchell Isaf, ym mhlwyf [[Llanefydd]], [[Sir Ddinbych]] yn 1739. O fewn dwy flynedd symudodd y teulu i'r Nant Uchaf yn [[Nantglyn]] (y "Nant" yn ei lysenw), hefyd yn Sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond dysgodd elfennau [[llythrenedd|darllen a sgwennu]] [[Cymraeg]] mewn ysgol rad a sefydlwyd yn Nantglyn. Dywed Twm yn ei hunangofiant ei fod wedi sgwennu ei anterliwt gyntaf yn 9 mlwydd oed. Gweithiodd fel gwas fferm, fel ei dad o'i flaen. Ond cyn hir roedd yn perfformio mewn anterliwtiau yn ffeiriau gogledd-ddwyrain Cymru. Priododd ei gariad Elizabeth Hughes yn 24 oed ar [[19 Chwefror]] [[1763]], mewn gwasanaeth yn [[Llanfair Talhaearn]] a arweinwyd gan y bardd [[Ieuan Brydydd Hir]], a chafodd ferch yn Rhagfyr yr un flwyddyn. Bu fyw â'i wraig yn y gogledd hyd [[1769]] gan ennill bywoliaeth fel cariwr coed yn [[Dinbych|Ninbych]] a [[Bachymbyd]].
[[Delwedd:Bedd Twm o'r Nant - geograph.org.uk - 114340.jpg|bawd|chwith|Bedd Twm yn Sant Marchell (Yr Eglwys Wen), Dinbych.]]
[[Delwedd:Bedd Twm o'r Nant - geograph.org.uk - 113990.jpg|bawd|Bedd Twm yn Sant Marchell (Yr Eglwys Wen), Dinbych.]]
 
Yna daeth tro mawr ar ei fywyd ac aeth Twm i lawr i'r [[de Cymru|De]] a [[Sir Drefaldwyn]] i ddianc rhag ei ddyledwyr a threuliodd gyfnod helbulus yn cadw tafarn ac yn gofalu am dollborth yn [[Llandeilo]], [[Sir Gaerfyrddin]].
Llinell 49 ⟶ 50:
 
==Ei waith llenyddol==
[[Delwedd:Thomas Edwards (Twm o'r Nant) (1739-1810). Lewis Hughes, c. 1790-1800.jpg|250px|bawd|Portread o Twm o'r Nant, tua 1790-1800, gan Lewis Hughes. Olew ar bren (Amgueddfa Gwerin Cymru).]]
Cofir Twm yn bennaf am ei anterliwtiau. Math o [[drama|ddrama]] boblogaidd a chwareid ar lwyfannau agored mewn ffeiriau a [[gwylmabsant|gwyliau mabsant]] oedd yr anterliwt. Ceir elfen gref o [[ffars]] a [[dychan]] ynddynt, ynghyd â beirniadaeth gymdeithasol a [[moes]]ol. Yr anterliwtiau pwysicaf gan Twm o'r Nant yw:
*''Tri Chydymaith Dyn'' ([[1762]])
Llinell 65 ⟶ 66:
 
==Llyfryddiaeth==
[[Delwedd:TwmorNant.jpg|220px|bawd|Twm o'r Nant yn ei henaint, portread cyfoes.]]
===Gwaith Twm o'r Nant===
*Glyn M. Ashton (gol.), ''Anterliwtiau Twm o'r Nant: Pedair Colofn Gwladwriaeth a Cybydd-dod ac Oferedd'' (Caerdydd, 1964)