Efnysien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae '''Efnysien''' yn gymeriad chwedlonol yn yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl ''Branwen ferch Llŷr''. Mae Efnysien yn frawd i Nisien...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 12:
:Rac kydwyr cad barawt.
 
Yn ystod y drafodaeth ymddengys fod y [[Brythoniaid]]/[[Cymry]] yn dechrau meddalu a derbyn amodau heddwch y Gwyddyl, ond mae Efnysien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab Branwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad anochel, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr. Mae'r Gwyddelod yn rhoi cyrff eu rhyfelwyr marw yn y [[Pair Dadeni]], un o drysorau hud Matholwch, i'w adfywio fel y gallent ymladd unwaith eto ac mae'r Brythoniaid yn dechrau colli'r dydd. Mewn un weithred anhunanol sydd mewn gwrthgyferbiadgwrthgyferbyniaeth llwyrlwyr i'w ran yn yr hanes hyd yno, mae Efnysien yn aberthu ei hun er mwyn arbed y Cymry trwy neidio i mewn i'r Pair a'i ddryllio, gan ladd ei hun yn yr ymdrech gorddynol. Yn y diwedd mae holl wŷr Iwerddon wedi ei lladd, a dim ond saith o fyddin Bendigeidfran sy'n fyw i ddychwelyd i Brydain gyda Branwen. Lladdwyd Bendigeidfran ei hun, ond cyn marw gorchymynodd i'w wŷr dorri ei ben a mynd a'r pen yn ôl gyda hwy.
 
Mae rhai haneswyr llên yn awgrymu fod cymeriad Efnysien yn seiliedig ar [[Bricriu Nemthenga]] yn y chwedl [[Wyddeleg]] ''[[Fled Bricrenn]]'', ond nid yw pawb yn derbyn hynny.