Efnysien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
rhyngwici |
llun |
||
Llinell 3:
Mae Efnysien yn fab i [[Penarddun]] ac [[Euroswydd]] ac felly'n yn frawd gefaill i [[Nisien]]. Yn ogystal, mae'n hanner brawd i [[Bendigeidfran fab Llŷr|Fendigeidfran]] a'i chwaer [[Branwen]] a [[Manawydan]]. Yn y chwedl mae Efnysien yn gymeriad aflonydd sy'n cynhyrfu'r dyfroedd ar bob achlysur.
Daw [[Matholwch]] brenin [[Iwerddon]] i ofyn am Franwen yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnysien yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial. I wneud yn iawn am y sarhad mae Bendigeidfran yn rhoi'r [[Pair Dadeni]] i Fatholwch.
[[Delwedd:Branwen pair(Guest).JPG|300px|bawd|Y Pair Dadeni yn cael ei dwyn o'r llyn gan y cawr, gyda'i wraig yn ei ddilyn (engrafiad yn ail argraffiad cyfieithiad yr Arglwyddes [[Charlotte Guest]] o'r ''[[Mabinogi]]'', 1877)]]
Yn Iwerddon mae Branwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, [[Gwern (mytholeg)|Gwern]], iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnysien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar Franwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi [[Drudwy|drudwy]] ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i Fendigeidfran yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae Bendigeidfran a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, y fyddin mewn llongau ond Bendigeidfran yn cerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario.
Llinell 12 ⟶ 14:
:Rac kydwyr cad barawt.
Yn ystod y drafodaeth ymddengys fod y [[Brythoniaid]]/[[Cymry]] yn dechrau meddalu a derbyn amodau heddwch y Gwyddyl, ond mae Efnysien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab Branwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad anochel, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr. Mae'r Gwyddelod yn rhoi cyrff eu rhyfelwyr marw yn y [[Pair Dadeni]],
Mae rhai haneswyr llên yn awgrymu fod cymeriad Efnysien yn seiliedig ar [[Bricriu Nemthenga]] yn y chwedl [[Wyddeleg]] ''[[Fled Bricrenn]]'', ond nid yw pawb yn derbyn hynny.
|