Efnysien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Daw [[Matholwch]] brenin [[Iwerddon]] i ofyn am Franwen yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnysien yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial. I wneud yn iawn am y sarhad mae Bendigeidfran yn rhoi'r [[Pair Dadeni]] i Fatholwch.
 
[[Delwedd:Branwen pair(Guest).JPG|300px|bawd|Y [[Pair Dadeni]] yn cael ei dwyn o'r llyn gan y cawr, gyda'i wraig yn ei ddilyn (engrafiad yn ail argraffiad cyfieithiad yr Arglwyddes [[Charlotte Guest]] o'r ''[[Mabinogi]]'', 1877)]]
 
Yn Iwerddon mae Branwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, [[Gwern (mytholeg)|Gwern]], iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnysien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar Franwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi [[Drudwy|drudwy]] ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i Fendigeidfran yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae Bendigeidfran a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, y fyddin mewn llongau ond Bendigeidfran yn cerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario.