Matholwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 2:
 
==Pedair Cainc y Mabinogi==
[[Delwedd:Branwen_drudwy.JPG|250px|bawd|[[Branwen]] gyda'r drudwy yn llys Matholwch]]Yn yr Ail Gainc, portreadir Matholwch fel brenin Iwerddon sy'n glanio yn [[Harlech]] gyda thair llong ar ddeg i geisio llaw [[Branwen]], chwaer [[Bendigeidfran]] gyda'r bwriad o ffurfio cynghrair rhwng Iwerddon ac "Ynys y Cedyrn". Mae Bendigeidfran yn cydsynio ond mae gweithred ysgeler [[Efnysien]] yn difetha meirch Matholwch ac felly'n ei sarhau a dwyn gwarth ar Fendigeidfran yn ei ddigio ac mae'n hwylio yn ôl i Iwerddon. Er mwyn cymodi â Matholwch mae Bendigeidfran yn anfon dau anrheg arbennig iddo, sef y [[Pair y Dadeni]] a meirch newydd.
 
Mae Matholwch yn priodi Branwen wedyn ac yn byw gyda hi yn ddedwydd yn ei lys yn Iwerddon. Genir mab iddo gan Branwen a enwir Gwern ond mae pobl Matholwch yn ddig wrtho am na ddialodd y sarhad a gafodd yn llys Bendigeidfran. Mae'n rhaid iddo ildio o'r diwedd ac yn wir mae'n digio ei hun ac yn taro Branwen (gweler isod) ac yn ei rhoi i weithio yn y gegin fel morwyn gyffredin, sy'n sarhad arni hi a Bendigeidfran. Mae Branwen yn dofi [[drudwy]] ac yn ei anfon i Gymru gyda neges i'w frawd am ei sefyllfa truenus.