Tylwyth Teg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
newid llun
ehangu; llyfrau eraill
Llinell 1:
[[Delwedd:M.L.Williams Lady-of-the-Van-Lake.JPG|bawd|200px|Arglwyddes Llyn y Fan Fach. Llun gan M.L.Williams.]]
 
Defnyddir yr enw '''Tylwyth Teg''', weithiau '''Bendith y Mamau''' yn ne CynruCymru, am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn [[chwedloniaeth]] a [[llên gwerin]] llawer gwlad, er enghraifft ''banshee'' yn [[Iwerddon]], ''brownies'' yn [[yr Alban]], ''fairies'' ac ''elves'' yn [[Lloegr]], ''fee'' yn [[Ffrainc]].
 
Efallai fod gan y chwedlau am y tylwythTylwyth tegTeg gysylltiad a hen dduwiau a duwiesau [[y Celtiaid]]. Yn ôl un fersiwn, [[Gwyn ap Nudd]] oedd eu brenin. Cysylltir hwy yn aml a llynnoedd; ar y llaw arall dywedid fod [[criafolen]] yn amddiffyniad rhagddynt, ac nad oeddynt yn hoffi [[haearn]]. Ceir chwedlau amdanynt o lawer rhan o Gymru' ; casglwyd llawer o'r rhain gan Syr [[John Rhys]], [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]] ac eraill. Ceir nifer o themau yn y chwedlau hyn; un yw fod y tylwythTylwyth tegTeg yn cyfnewid babanod dynol am eu bananod eu hunain. Thema arall yw bod meidrolyn yn ymweld a gwlad y tylwythTylwyth tegTeg, weithiau yn dychwelyd oddi yno i ddarganfod fod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio a bod neb yn ei adnabod bellach.
 
Chwedl a gysylltir a nifer o ardaloedd yw'r un am ddyn yn priodi merch o'r tylwythTylwyth tegTeg, ar yr amod na fyddai fyth yn ei tharo, neu na fyddai'n ei tharo aâ [[haearn]]. Yn y diwedd, yn fwriadol neu drwy ddamwain, mae'n gwneud hynny, ac mae'r ferch yn diflannu. Ceir fersiynau o'r chwedl yma yn gysylltiedig a nifer o lynnoedd, megis [[Llyn y Fan Fach]] yn [[Sir Gaerfyrddin]] a [[Llyn y Dywarchen, Rhyd Ddu]]. Gallai'r tylwythTylwyth tegTeg roi rhoddion i bobl oedd yn eu helpu, neu gosbi'r rhai oedd yn eu croesi.
 
Mae'r gwaharddiad ar haearn (a [[halen]] hefyd weithiau), ynghyd â'r ffaith fod nifer o'r chwedlau yn lleoli gwlad y Tylwyth Teg dan [[cromlech|siambrau claddu]] a [[gorsedd]]au (bryniau isel neu hen siambrau claddu), yn arwain rhai efrydwyr i ddamcaniaethu fod y Tylwyth yn cynrychioli atgof y Celtiaid am y bobl gyn-Geltaidd, ac felly'n gysylltiad â phobloedd [[Oes y Cerrig]].
 
==Llyfryddiaeth==
*Hugh Evans, ''Y Tylwyth Teg'' (Lerpwl, 1935; 4ydd argraffiad, 1950)
*John Owen Huws ''Y Tylwyth Teg'' (Gwasg Carred Gwalch, 1987) ISBN 0-86381-073-X
*Owen Wynne Jones: ''Straeon Glasynys'', gol. Saunders Lewis (Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)
 
[[Categori:Llên gwerin Cymru]]