Caryl Parry Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
HakanIST (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 212.219.232.96 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Tegel.
Yn dda iawn
Llinell 1:
Mae '''CarylDy Parry Jones'''Fam (ganwyd [[16 Ebrill]] [[1958]]) yn gantores boblogaiddShit yng [[Nghymru]]Lloegr. Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig, actores, cyflwynwraig [[teledu]]POM POM a hyfforddwraig llais.
{{Gwybodlen Person
| enw = Caryl Parry Jones
| delwedd = Caryl Parry Jones.jpg
| maint_delwedd = 200px
| pennawd =
| dyddiad_geni = {{dyddiad geni ac oedran|df=y|1958|4|16}}
| man_geni = [[Ffynnongroyw]], [[Sir y Fflint]]
| man_marw =
| achos_marwolaeth =
| ethnigrwydd =
| man_claddu =
| cartref =
| cenedligrwydd = {{flagicon|Wales}} [[Cymraes]]
| dinasyddiaeth =
| enwau_eraill =
| enwog_am =
| addysg =
| cyflogwr =
| galwedigaeth = [[Cantores]], [[Cyfansoddwraig]], [[Actores]], [[Cyflwynydd|Cyflwynwraig]]
| gweithgar = 1980 - presennol
| teitl =
| cyflog =
| gwerth_net =
| taldra =
| pwysau =
| tymor =
| plaid =
| crefydd =
| priod = [[Myfyr Isaac]]
| partner =
| plant =
| rhieni = [[Rhys Jones (cerddor)|Rhys Jones]], Gwen
| perthnasau =
| llofnod =
| gwefan =
| nodiadau =
}}
Mae '''Caryl Parry Jones''' (ganwyd [[16 Ebrill]] [[1958]]) yn gantores boblogaidd yng [[Nghymru]]. Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig, actores, cyflwynwraig [[teledu]] a hyfforddwraig llais.
 
==Bywgraffiad==
Ganed Caryl Parry Jones yn ferch i [[Rhys Jones (cerddor)|Rhys Jones]], cerddor ac athro, a'i wraig Gwen,<ref>{{dyf gwe| url=http://s4c.co.uk/cerddoriaeth/e_gwrygan.shtml| teitl=Rhys Jones: Gŵr y Gân| cyhoeddwr=S4C| dyddiadcyrchiad=5 Ionawr 2012}}</ref> ac fe'i magwyd yn [[Ffynnongroyw]], rhwng [[Treffynnon]] a'r [[Y Rhyl|Rhyl]], lle mynychodd Ysgol Mornant cyn symud ymlaen i [[Ysgol Glan Clwyd]], [[Llanelwy]]. Astudiodd y [[Cymraeg|Gymraeg]] a [[Cymdeithaseg|Chymdeithaseg]] ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Cymru, Bangor]].
 
Mae'n briod a [[Myfyr Isaac]] a mae ganddynt pedwar o blant - Miriam, Greta, Elan a Moc.<ref>[http://poblcaerdydd.com/talent-dibendrawr-parry-isaacs/ Talent dibendraw’r Parry Isaacs]. Pobl Caerdydd, 18 Rhagfyr 2014; Adalwyd 2015-12-30
</ref>
 
== Gyrfa ==
 
=== Cerddoriaeth ===
Yn ystod ei hamser yn yr ysgol uwchradd ffurfiodd y grwp [[Sidan]] gyda Sioned Mair, gan ryddhau un record hir, [[Teulu Yncl Sam]], ynghyd â dwy record fer.
 
Ymunodd â'r band Gymraeg, [[Injaroc]], tra yn y brifysgol, ond chwalodd y grŵp wedi naw mis, ar ôl rhyddhau un record hir o'r enw [[Halen y Ddaear]]. Un o ganeuon Caryl ar y record hon oedd [[Calon (cân)|Calon]], cân a recordiwyd yn ddiweddarach gan grwp Diffiniad fel trac disgo yn ystod y [[1990au]].
 
Ar ôl gadael y coleg, symudodd i [[Caerdydd|Gaerdydd]] lle y bu'n cyflwyno'r rhaglen blant ''[[Bilidowcar (rhaglen deledu)|Bilidowcar]]'' a'r gyfres bop, ''[[Sêr|Sêr 2]]''. Yno, ffurfiodd y grŵp [[Bando (band)|Bando]] gyda [[Tich Gwilym]] a Myfyr Isaac, a hithau'n brif leisydd. Rhyddhawyd dwy record hir, [[Hwyl ar y Mastiau]] ([[1980]]) a [[Shampŵ]] ([[1982]]), record sy'n cynnwys un o ganeuon mwyaf adnabyddus Caryl, sef [[Chwarae'n Troi'n Chwerw]].
 
Wedi i Bando chwalu, parhaodd i berfformio o dan yr enw [[Caryl a'r Band]]. Ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau ''[[Gaucho]]'' ([[1983]]) a ''[[The Mimosa Boys]]'' ([[1983]]). Mae hi hefyd yn chwarae'n fyw gyda'i band newydd, y Millionaires.
 
=== Teledu ===
Cafodd gyfres deledu ei hun, Caryl, ar [[S4C]] rhwng [[1983]] a [[1987]] a oedd yn gyfuniad o berfformiadau cerddorol a sgetsys comedi. Ymddangosodd yn y gyfres [[Dawn]] yn gwneud dynwarediadau ac yn chwarae rhannau gwahanol gymeriadau, yn arbennig Glenys, Lavinia a Delyth. Yn ddiweddarach, seiliwyd dwy ffilm deledu ar y cymeriadau hyn, sef ''[[Ibiza, Ibiza!]]'' ([[1986]]) a ''[[Steddfod, Steddfod]]'' ([[1989]]), gyda Caryl yn ymddangos efo [[Siw Hughes]], [[Huw Chiswell]] ac [[Emyr Wyn]]. Yn 1985 fe gyd-ysgrifennodd y ffilm gerdd ''[[Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig]]'' gyda [[Hywel Gwynfryn]]. Ar ddechrau y 1990au fe wnaeth hi chwarae rhan y fam yn y gyfres comedi deuluol [[Hapus Dyrfa]].
 
Ymddangosodd Caryl ar y gyfres ''[[Wawffactor]]'', y sioe dalent ar S4C, yn rhoi cyngor a hyfforddiant llais i'r cystadleuwyr.
 
Fe ddychwelodd i fyd comedi teledu yn 2013 gyda'r rhaglen ''Caryl'' ar S4C oedd yn cynnwys cymysgedd o sgetsus a cherddoriaeth,<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.walesonline.co.uk/lifestyle/showbiz/caryl-parry-jones-provides-mix-2497583|teitl= Caryl Parry Jones provides a mix of comedy and music in her new TV series|iaith=en|gwaith=WalesOnline|awdur=Karen Price|dyddiad=19 Ionawr 2013|}}</ref> a ddilynwyd gan dau gyfres pellach o dan y teil ''Caryl a'r Lleill'' yn 2014 a 2015. Fe aeth un o gymeriadau'r rhaglen gomedi, "Anita" ymlaen i serennu mewn rhaglen ddrama arbennig ''Anita'' yn 2015 a fe ddilynwyd hyn gan gyfres o chwe pennod yn Mawrth 2016.<ref>{{dyf gwe|url=http://www.s4c.cymru/caban/?p=13606|teitl=Anita’n codi gwên ar nos Sul|gwaith=S4C|dyddiad=11 Mawrth 2016|dyddiadcyrchu=27 Mawrth 2016}}</ref>
 
Roedd hefyd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd ''Jones Jones Jones'' am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yng [[Canolfan Mileniwm Cymru|Nghanolfan Mileniwm Cymru]] yn [[2006]], gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.<ref>[http://www.s4c.co.uk/abouts4c/press/c_jones.shtml 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd'] [[26 Tachwedd]] [[2006]] [[S4C]]</ref><ref>[http://www.uhmedia.co.uk/jones_website/ 1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!]</ref><ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/5192960.stm ''Meet the Joneses for world record''] [[BBC]] [[19 Gorffennaf]] [[2006]]</ref>
 
=== Awdur ===
Caryl oedd [[Bardd Plant Cymru]] 2007–2008, ac mae erbyn hyn wedi ysgrifennu sawl llyfr ar gyfer plant.
 
==Llyfryddiaeth==
* ''Barti Smarti a Straeon a Cherddi Eraill'', Mai 2008 ([[Gwasg Gomer]])
* ''Siocled Poeth a Marshmalos'', Hydref 2009 ([[Gwasg Gomer]])
* ''Cyfres Dewin: 3. Ffrindiau'r Goedwig'', Tachwedd 2011 ([[Gwasg Gomer]])
* ''Cyfres Dewin: 4. Ar Lan y Môr'', Tachwedd 2011 ([[Gwasg Gomer]])
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==
* {{IMDb|2659655}}
* {{Twitter|carylparryjones}}
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Jones, Caryl Parry}}