Bwlch y Gorddinen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 14:38, 19 Medi 2007
Y mae Bwlch y Gorddinan, adnabyddir yn ogystal fel Y Crimea (Saesneg: The Crimea Pass) yn fwlch mynyddig yng ngogledd Cymru, ar lôn yr A470 rhwng Blaenau Ffestiniog i'r de a Dolwyddelan i'r gogledd. Mae pen y bwlch yn gorwedd yn sir Conwy ond mae'n disgyn i sir Gwynedd ar yr ochr arall, i'r de. Gorwedd y bwlch ar sawdl rhwng Moel Penamnen i'r dwyrain a bryniau'r Moelwynion i'r gorllewin.
Yn ei fan uchaf mae'r bwlch yn gorwedd 385m (1,262 troedfedd) uwch lefel y môr, ac mae'r ffordd drosto yn cael ei chau gan eira yn y gaeaf weithiau. Ar un adeg bu tafarn ar ben y bwlch. Mae'r tir yn agored ar ochr Dyffryn Lledr, ond mae'r ffordd yn disgyn yn serth i'r de i lawr i'r Blaenau trwy domenni llechi gwastraff trawiadol Chwarel Llechwedd.
Er bod Bwlch y Gorddinan yn ewn hen, gelwir y bwlch "Y Crimea" neu "Pas Crimea" ar lafar. Mae'r enw hwnnw yn dyddio o gyfnod Rhyfel Crimea, a ymladdwyd tua'r amser yr agorwyd y ffordd fodern dros y blwch, yn 1854. Yn ôl traddodiad, codwyd nifer o'r waliau cerrig ger y bwlch gan garcharorion rhyfel o Rwsia a gawsant eu dal ym mrwydrau Inkerman a Balaclava.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Dogfen am y carcharorion rhyfel