Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 561 beit, 2 flynedd yn ôl
Y blynyddoedd cynnar
}}
Mae '''Mikhail Sergeyevich Gorbachev''' ([[Rwsieg]]: Михаи́л Серге́евич Горбачёв) (ganed [[2 Mawrth]] [[1931]]) yn wleidydd Rwsiaidd a fu am gynfnod yn arlywydd yr [[Undeb Sofietaidd]]. Ef oedd yr wythfed Arlywydd, a'r olaf. Roedd yn [[Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd]] (1985 - 1991) ac arlywydd olaf yr Undeb Sofietaidd, yn dal y swydd honno o [[1985]] hyd ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd yn [[1991]]. Roedd ei ymgeisiau i adnewyddu'r wladwriaeth, sef ''[[perestroika]]'' a ''[[glasnost]]'', yn elfen amlwg yn y broses i ddod a'r [[Rhyfel Oer]] i ben ac i ail-greu'r Undeb Sofietaidd gan ei throi o fod yn wlad [[Comiwnyddiaeth|Gomiwnyddol]] ac at [[cyfalafiaeth|Gyfalafiaeth]]. Fe dderbyniodd [[Gwobr Heddwch Nobel|Wobr Heddwch Nobel]] yn [[1990]].
 
==Y blynyddoedd cynnar==
Fe'i ganed yn [[Stavropol Krai]] i deulu gwerinol, cyffredin o [[Wcrain]]-[[Rwsia|Rwsiaidd]]; Yn hogyn ifanc arferai yrru peiriant cynaeafu gwair ar ffermydd cyfagos. Graddiodd yn y gyfraith ym [[Moscfa|Mhrifysgol Mosgow]] yn 1955, lle ymunodd gyda'r Blaid Gomiwnyddol. Cafoff ei ethol yn swyddog o Gymdeithas Talaith Stavropol yn 1970, ac yn Ysgrifennydd Cyntaf y mudiad cenedlaethol yn 1974 a'r [[Politburo]] erbyn 1979. Etholwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Politburo yn 1985, dair blynedd wedi marwolaeth [[Leonid Brezhnev]].