Elfael: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 5:
*[[Elfael Is Mynydd]].
 
Mae canolfannau gwleidyddol Elfael yn anhysbys, ond roedd Elfael ym meddiant disgynyddion [[Elystan Glodrydd]], hendaid i'r pumed o [[Llwythau Brenhinol Cymru|Lwythau Brenhinol Cymru]]. Mae'n bosibl felly fod Elfael yn fân deyrnas neu is-deyrnas yn yr [[Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]]. Ymddengys fod Elfael wedi mwynhau cryn elfen o annibyniaeth fel arglwyddiaeth leol hyd cyfnod y [[Normaniaid]]. Yn y [[1070au]] a'r [[1080au]] dioddefodd ymosodiadau gan yr arglwyddi Normanaidd. Erbyn chwarter olaf y [[12fed ganrif]] roedd Elfael wedi dod dan ddylanwad yr [[Arglwydd Rhys]] trwy briodasau brenhinol. Yn [[1276]] daeth i feddiant y [[Normaniaid|Normaniad]] [[Ralph Tony]] ac yna trwy ddisgynyddion yr arglwydd hwnnw i feddiant [[Iarll Warwick|Ieirll Warwick]]. Codwyd [[castell mwnt a beili|castell Normanaidd]] yn [[Llanfair Castell Paun]] a fu un o gaerau pwusicaf [[y Mers]].
 
Canolfan grefyddol ac eglwysig Elfael oedd [[Glascwm]], lle sefydlwyd [[clas]] gan [[Dewi Sant]] neu un o'i ddisgyblion.
 
==Ffynnonellau==
*John Davies, ''Hanes Cymru'' (Llundain, 1990). D.g. Elfael.
*J. E. Lloyd, ''A History of Wales...'' (Longmans, 3ydd arg., 1939)
 
[[Categori:Cantrefi Cymru]]