Talybolion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Cwmwd]] yng ngogledd-orllewin [[Môn]] oedd cwmwd '''Talybolion''' (amrywiad : '''Talebolion'''). Roedd yn un o ddau gwmwd [[cantref]] [[Cemais (cantref ym Môn)|Cemais]], yn gorwedd i'r gorllewin i'r cwmwd arall, [[Twrcelyn]].
 
Yr oedd y cwmwd yn cynnwys rhan ogleddol [[Ynys Gybi]] (gyda [[Caergybi|Chaergybi]] yn ganolfan). Ar dir mawr Môn ffiniai â chwmwd [[Llifon]] yng nghantref [[Aberffraw (cantref)|Aberffraw]], i'r de, ac â chwmwd Twrcelyn i'r dwyrain. [[Maenor]] Cemais ([[Porth Wygyr]] heddiw efallai) oedd safle llys y cwmwd, a oedd yn ogystal yn brif lys i'r cantref.
 
==Hanes==
CyslltirCysylltir Talybolion â [[Pabo Post Prydain]], sant o'r [[5fed ganrif]] ac aelod o deulu brenhinol [[teyrnas Gwynedd]]. Codwyd eglwys iddo yn [[Llanbabo]] yn y [[12fed ganrif]], yn ystod teyrnasiad [[Owain Gwynedd]].
 
==[[Plwyf]]i==
*[[Llanbadrig]] - lleoliad Cemais, [[maenor]] y cwmwd
*[[Llanfechell]]
*[[Llanrhwydrys]]
Llinell 20:
==Gweler hefyd==
*[[Cantrefi a chymydau Cymru]]
 
==Darllen pellach==
*A. D. Carr, ''Medieval Anglesey'' (Llangefni, 1982). Cefndir.