Wicipedia:Arddull: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B gramadeg
B →‎Tudalennau gwahaniaethu: cywiro'r cyswllt wici
Llinell 107:
Ar gyfer termau sydd â mwy nag un ystyr (fel ''Mawrth'', sydd yn golygu naill ai "mis Mawrth" neu'r blaned "Mawrth") bydd yn rhaid cyflwyno tudalen wahaniaethu. Mae dau fath o dudalen wahaniaethu o flaen pob erthygl perthnasol; naill ai mae defnyddio'r term yn eich hebrwng yn syth at y dudalen gwahaniaethu (e.e. [[Conwy (gwahaniaethu)]]), neu fe ewch at erthygl sy'n defnyddio'r term a dolen ar ben y dudalen honno yn eich hebrwng at y dudalen wahaniaethu (e.e. [[Tsieina]]). Wrth gwrs, mae'r cyntaf (sef tudalen wahaniaethu o flaen pob tudalen perthnasol) yn well, ond os oes llawer o gysylltiadau i Wicipediau mewn ieithoedd eraill ers meitin efallai ei bod hi'n syniad defnyddio'r ail ddull.
 
Pan nad oes rhagor na dau ystyr gan derm, a bod gan y dudalen lawer o gysylltiadau rhyngieithol ers meitin, gallwch ysgrifennu brawddeg sydd yn awgrymu'r ystyr arall ar ddechrau'r erthygl sy'n cysylltu i'r dudalen newydd (e.e. fel [[Gwyn Thomas (nofelydd)|Gwyn Thomas]]).
 
[[Categori:Cymorth|Arddull]]